Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw yn yr ysbyty

Cafodd David Rogers ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Ffordd Felindre, Pen-coed, ar 28 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd David Rogers ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Ffordd Felindre, Pen-coed, ar 28 Chwefror - ond bu farw yn yr ysbyty ddydd Llun.
Ymddangosodd Liam Walters, 26 oed, o Ben-coed, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd Mr Walters yn ymddangos yn y llys i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 00:30 a 04:30 ddydd Sadwrn diwethaf, yn ogystal ag unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu â nhw
Ni chafodd unrhyw bledion ei wneud, ac mi fydd Mr Walters yn parhau yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Yn dilyn y digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth Mr Rogers, apeliodd Heddlu De Cymru ar unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 00:30 a 04:30 ddydd Sadwrn diwethaf, yn ogystal ag unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu â nhw.
Dywedodd yr heddlu yn flaenorol fod teulu Rogers yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
