Dau yng Nghymru wedi eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China

- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur wedi dweud nad ydy hi'n "rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr" ar ôl i dri dyn gael eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China.
Dywedodd AS Llafur o'r Alban, Joani Reid nad yw hi "erioed wedi gweld dim byd" i wneud iddi amau bod ei gŵr, David Taylor, wedi torri'r gyfraith.
Mae Mr Taylor yn gyn-ymgynghorydd arbennig i Lafur Cymru.
Yn gynharach, dywedodd Heddlu'r Met fod tri dyn, 39, 43 a 68 oed, wedi cael eu harestio yn Llundain a Chymru fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.
Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 68 oed wedi ei arestio ym Mhowys, dyn 43 oed wedi ei arestio ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, a dyn 39 oed wedi ei arestio yn Llundain.
Nid oes "bygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd", ychwanegodd y Met, ac mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Joani Reid nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau â China
Dywedodd Joani Reid, sy'n cynrychioli Dwyrain Kilbride a Strathaven, mewn datganiad: "Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth i wneud i mi amau bod fy ngŵr wedi torri'r gyfraith.
"Dydw i ddim yn rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr ac nid wyf fi na fy mhlant yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ac ni ddylem gael ein trin gan sefydliadau'r cyfryngau fel pe baem ni.
"Rwy'n disgwyl i'r wasg barchu preifatrwydd fy mhlant."
Ychwanegodd Ms Reid nad oedd hi erioed wedi bod i China ac nad oedd hi erioed wedi siarad ar unrhyw faterion yn ymwneud â China yn Nhŷ'r Cyffredin.
"Dydw i erioed wedi gofyn cwestiwn ar faterion sy'n ymwneud â China. Hyd y gwn i, dydw i erioed wedi cwrdd ag unrhyw fusnesau Chineaidd tra roeddwn i'n AS, unrhyw ddiplomyddion Chineaidd na gweithwyr llywodraeth, nac wedi codi unrhyw bryder gyda gweinidogion nac unrhyw un arall ar ran, hyd yn oed yn gyd-ddigwyddiadol, buddiannau Chineaidd.
"Rwy'n ddemocrat cymdeithasol sy'n credu mewn rhyddid mynegiant, undebau llafur rhydd ac etholiadau rhydd. Nid wyf yn unrhyw fath o edmygydd nac yn ymddiheuro dros unbennaeth plaid Gomiwnyddol China."