Drakeford yn 'becso' os yw pobl 'sydd ddim yn cefnogi'r Gymraeg' mewn grym

- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd y Gymraeg Mark Drakeford yn dweud ei fod yn "becso" am dymor y Senedd nesaf os yw pobl sydd ddim yn gefnogol i'r Gymraeg yn cael eu hethol yn etholiad mis Mai.
Roedd yn ymateb i AS Plaid Cymru Heledd Fychan oedd wedi gofyn iddo "pa mor beryg" fyddai pe bai plaid Reform yn "cael gwared" ar dargedau Cymraeg 2050.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform wrth y BBC eu bod "eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ledled ein gwlad".
"Byddem yn disodli targedau mympwyol gydag uchelgais go iawn," ychwanegodd.
Bydd Reform yn cyhoeddi eu maniffesto yfory ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged sef:
Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;
Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.

Ym mhwyllgor diwylliant y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Heledd Fychan, "mae gennym ni gonsensws yn y Senedd hon ar y funud.
"Rydyn ni'n gwybod bod pob plaid sy'n sefyll yn yr etholiad ym mis Mai ddim yn gefnogol i'r Gymraeg.
"Mae Reform wedi dweud, er enghraifft, efo Cymraeg 2050 - cael gwared arno fo. Pa mor beryg 'dych chi'n meddwl byddai hynny a pheidio cael hyn yn ganolog o ran strategaeth llywodraeth o ran parhad y Gymraeg?"
Atebodd Mark Drakeford mai un o'r pethau y mae "mor falch amdano" ers etholiad y Senedd yn 2021 yw bod Deddf y Gymraeg ac Addysg wedi cael ei basio yn y Senedd yn unfrydol.
"Dwi'n siŵr bod rhai pobl yn y Ceidwadwyr yn meddwl bod y ddeddf wedi mynd yn rhy bell ac yn rhy gyflym. Roedd aelodau ym Mhlaid Cymru, dwi'n siŵr, oedd yn meddwl nad oedd y ddeddf yn mynd yn ddigon pell, ac yn mynd yn rhy araf.
"Ond roedd y consensws y tu ôl i'r iaith, roedd pob plaid eisiau dangos eu bod yn gefnogol.
"Mae hynny'n really pwysig dwi'n meddwl. Dwi yn becso am y Senedd nesaf, ble bydd pobl o'r cefndir gwleidyddol gwahanol sydd ddim yn gefnogol i'r iaith Gymraeg, sydd ddim yn gefnogol i'r Senedd...
"Ni wedi bod yn lwcus, dwi'n meddwl, y ffaith ein bod ni wedi cyd-weithio ar bwnc mor sylfaenol i ni yng Nghymru, wedi bod yn un o gryfder i'r iaith a dwi ddim eisiau gweld hynny'n diflannu yn ystod y Senedd nesaf".
"Dwi'n meddwl y bydden ni gyd yn ategu eich geiriau yn fan 'na" meddai cadeirydd y pwyllgor, AS Plaid Cymru Delyth Jewell.
Pan basiwyd cam olaf Bil y Gymraeg ac Addysg, dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard: "Os yw pobl eisiau addysg Gymraeg mae'n bwysig bod y ddarpariaeth ar gael... mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd y targed o filiwn yn siarad Cymraeg".
'Enwau lleoedd yn faes gwaith heriol'
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod "enwau lleoedd yn dal i fod yn faes gwaith heriol".
Comisiynwyd ymchwil gan y llywodraeth i ddeall yn well ble, sut a pham mae enwau lleoedd yn newid yng Nghymru, a chyhoeddwyd y canfyddiadau yn Newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru: ymchwil ar dueddiadau cyfredol, dolen allanol ym mis Mehefin 2025.
Dywedodd y llywodraeth yn y papur ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ddydd Mercher, er bod yr adroddiad ymchwil hwnnw "yn canolbwyntio ar enwau eiddo, enwau busnes ac enwau strydoedd, roedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ragor o ymchwil i enwau topograffig, yn enwedig y rhai a ddefnyddir gan gymunedau twristiaeth a gweithgareddau awyr agored ac sy'n cael eu mabwysiadu'n ddiweddarach yn lleol ac ar-lein, ac sydd, oherwydd eu natur, yn fwy anodd eu canfod.
"Rydym yn parhau i archwilio sawl trywydd ar gyfer yr ail gam hwn o ymchwil."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd24 Chwefror

- Cyhoeddwyd13 Mai 2025
