Angen 'newid sylweddol' i addysg i gyrraedd targedau'r Gymraeg

Tair merch fach mewn gwisg ysgol a'u hathrawes yn gwenu ar ycamera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Bro Hyddgen yn symud yn raddol o ysgol dwy ffrwd i un ffrwd Gymraeg, gyda chefnogaeth trochi iaith i deuluoedd di-Gymraeg

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl "pegynnu barn" yn y gymuned yn wreiddiol, mae siwrne Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth o ysgol ddwy ffrwd i ysgol cyfrwng Cymraeg wedi bod yn "llwyddiannus iawn", medd y pennaeth.

Mae'n daith hoffai Comisiynydd y Gymraeg weld mwy o ysgolion yn cymryd er mwyn manteisio ar un o'r tri phif gyfle mae hi'n nodi yn ei hadroddiad pum mlynedd - creu siaradwyr Cymraeg hyderus trwy'r gyfundrefn addysg.

Ond mae Efa Gruffudd Jones yn dweud bod angen gweithredu "ar fyrder" i sicrhau bod digon o athrawon i addysgu trwy'r Gymraeg, gan alw am fwy o hyfforddiant iaith i staff ysgol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £8.7m yn y gweithlu addysgu cyfrwng Cymraeg, ond fe wnaeth y gwrthbleidiau eu cyhuddo o beidio gwneud digon o gynnydd at gyrraedd y nod o miliwn o siaradwyr.

Dechreuodd Ysgol Bro Hyddgen, sy'n ysgol 3-18 oed, ar y broses o newid i fod yn ysgol un ffrwd Gymraeg ym Medi 2022.

Yn wreiddiol y cynllun oedd trosglwyddo'r ysgol yn syth i fod yn un ffrwd ond gyda rhai rhieni'n anhapus, gwnaed y penderfyniad i ddechrau'r broses yn raddol o'r dosbarth derbyn i fyny.

Erbyn mis Medi, dim ond rhyw 15 o blant fydd yn y ffrwd Saesneg ym mlynyddoedd pump a chwech ar y safle cynradd.

Dyn mewn siwt las a thei glas yn sefyll ar bwys wal wen gyda gwaelod arwydd yr ysgol mewn golwgFfynhonnell y llun, Dafydd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Un o heriau ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yw cael digon o staff, meddai Dafydd Jones

"Dydych chi ddim yn gallu fflicio switch a just newid rhywbeth", meddai'r pennaeth Dafydd Jones.

"Mae'n rhaid i chi gael pobl i fod yn gwybod beth sy'n digwydd."

Mae argyhoeddi rhai rhieni o fanteision cael dwy iaith yn parhau yn sialens, meddai ond "dydw i ddim yn gweld dim byd ond rhywbeth positif o hyn".

Yn ôl cadeirydd y llywodraethwyr, Elwyn Vaughan mae'n bwysig bod yna gefnogaeth i deuluoedd a bod "pryderon pobl yn cael eu gwerthfawrogi".

Dywedodd bod ysgolion yn Llanfair Caereinion, Llanfair ym Muallt a Phontsenni ar deithiau ieithyddol tebyg i Ysgol Bro Hyddgen, a bod angen cynnal y "momentwm" yn y sir.

'Taith iaith pawb yn wahanol'

Rhan o'r gefnogaeth i deuluoedd yw gwasanaeth trochi ac yn Ysgol Bro Hyddgen mae un disgybl sy'n saith ac wedi symud o Loegr flwyddyn yn ôl, a dwy arall a symudodd o India yn y misoedd diwethaf, ymhlith y rheiny sy'n cael cefnogaeth.

Yn ôl Gwenan Phillips, Arweinydd Trochi Cyngor Sir Powys: "Mae taith iaith yn wahanol iawn i bob plentyn."

Mae yna o leiaf blwyddyn i flwyddyn a hanner o gefnogaeth yn yr ysgol a chyfnod yn y ganolfan iaith.

"Mae rhai yn dod yn rhugl o fewn rhai misoedd, rhai yn cymryd lot hirach ond da ni yma i'w cefnogi nhw", meddai.

Athrawes a thair merch mewn gwisg ysgol yn eistedd o gwmpas bwrdd gyda cherdiau lliwgar o'u blaenau
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai teuluoedd yn "nerfus iawn" am addysg Gymraeg felly mae "cyfathrebu a chefnogaeth gyson" gyda rhieni yn bwysig, meddai Gwenan Phillips

Mae adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg a "chwyldro" yn y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu i wireddu uchelgais Deddf y Gymraeg ac Addysg.

Mae'r adroddiad yn dweud bod "angen gweld newid sylweddol, a hynny ar fyrder" ym maes addysg er mwyn cyflawni targedau, a bod y gweithlu addysg yn "gwbl ganolog i gyflawni hyn".

"Mae'n boenus o amlwg nad yw'r ymdrechion presennol yn ddigon uchelgeisiol na phellgyrhaeddol i ateb y gofyn", meddai'r adroddiad.

Ac mae'n galw am "fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg yn rhan orfodol o hyfforddi, sefydlu a datblygu proffesiynol pob athro yn y dyfodol".

Dywedodd undeb athrawon yr NASUWT eu bod yn cytuno bod angen mwy o athrawon gyda sgiliau Cymraeg i gyrraedd y targedau.

"Yr unig ffordd allai hyn fod yn gynnig difrifol yw pe bai'r fframwaith hyfforddi yn digwydd gydag amser addas i ffwrdd o'r stafell ddosbarth - alla i ddim gweld hynny'n digwydd a felly byddai'n faich ychwanegol ar broffesiwn sydd eisoes wedi gorlwytho", meddai Neil Butler o'r undeb.

Menyw menyw cot felen yn sefyll ar bwys gat ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Carys ddim wedi ystyried addysg Gymraeg i'w phlant gan nad oedd hi'n siarad yr iaith

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 24.1% o blant saith oed yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond y targed yw 30% erbyn 2031.

Roedd amrywiaeth barn gan rieni yn casglu eu plant tu allan i ddwy ysgol gynradd - un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg - nesaf at ei gilydd yng Nghaerdydd.

"Fel rhiant doeddwn i ddim eisiau strugglo heb fod allu eu helpu nhw gyda gwaith cartref", meddai Shannon, sy'n danfon ei phlentyn ifancaf i'r ysgol Saesneg.

Dywedodd Paul bod addysg Gymraeg yn rhoi sgil ychwanegol ac yn "fantais" i'w ferch.

"Wnes i feddwl eich bod ond yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru felly ydy e wir yn fanteisiol?" oedd barn Justine.

Tra bod Rebecca, sy'n dod o dde Lloegr yn wreiddiol, yn credu bod "cael iaith ychwanegol yn arbennig o ddefnyddiol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni" gan gynnwys cefnogi dros 100 o athrawon i drosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Ond yn eu hymatebion nhw i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd rhai o'r gwrthbleidiau bod angen gwneud mwy i dyfu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer yr athrawon.