'Cyfle mewn cenhedlaeth' i godi nifer siaradwyr Cymraeg - Comisiynydd

Efa Gruffudd jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Gruffudd Jones wedi cyhoeddi ei hadroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r iaith Gymraeg

GanOwain Evans
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud mwy a gwneud pethau'n well os ydyn ni o ddifri am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg. Dyna neges Comisiynydd y Gymraeg i lywodraeth nesaf Cymru.

Mae'r comisiynydd Efa Gruffudd Jones wedi cyhoeddi ei hadroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r iaith gan ganolbwyntio ar addysg, y Gymraeg yn y gweithle a chymunedau Cymraeg.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen darparu ac ariannu profiadau diwylliannol, cymunedol a chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Un sy'n deall pwysigrwydd hynny yw Gwenno Ffrancon, un o drefnwyr Eisteddfod Cwm Tawe a gafodd ei chynnal dros y penwythnos.

Roedd llwyddiant Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Margam y llynedd yn ysgogiad i gynnal Eisteddfod flynyddol.

"Fi'n credu be' sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael llwyfan cymunedol i ddod â'r Gymraeg nôl i feddyliau pobl," meddai Ms Ffrancon.

Gwenno Ffrancon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwenno Ffrancon yn un o drefnwyr Eisteddfod Cwm Tawe

Ond mae 'na 'chydig o bryder nad yw pobl yn defnyddio'r iaith yn yr ardal, fel noda Sian Hart, athrawes leol.

"Mae lot o rieni ifanc yn gallu siarad Cymraeg, ond falle bo' nhw ddim yn siarad e yn y tŷ.

"Maen nhw'n dal i hala eu plant i ysgolion Cymraeg ond wedyn maen nhw'n cyrraedd adref ac maen nhw i gyd yn siarad Saesneg.

"Os y'ch chi ddim yn defnyddio'r iaith, dy'ch chi ddim mor rhugl."

'Ni'n gorfod troi i'r Saesneg'

Yn ôl Glenys Kim Protheroe mae mewnfudo wedi cael effaith ar yr iaith yng Ngwaun Cae Gurwen ym mhen ucha'r cwm.

"Dyw hi ddim mor gryf ac y mae hi wedi bod oherwydd mae pobl yn symud mewn i'r pentre' ac er eu bod nhw'n dod i bethau Cymraeg a Chymreig, ni'n gorfod troi i'r Saesneg.

"Wedi dweud hynny mae rhai ohonyn nhw'n gefnogol i'r iaith ac yn gwneud yn siŵr bod eu plant yn mynd i'r ysgol leol."

Caleb
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caleb: "Mae Dad yn siarad Cymraeg, dyw Mam ddim, ond mae gen i frawd hefyd ac mae Mam-gu yn siarad Cymraeg"

Mae'r to iau hefyd yn ymwybodol nad yw hi wastad yn hawdd defnyddio'r iaith, fel mae Caleb a Ruby, disgyblion Ysgol Bro Dur, yn sôn.

"Mae Dad yn siarad Cymraeg, dyw Mam ddim, ond mae gen i frawd hefyd ac mae Mam-gu yn siarad Cymraeg.

"So ni'n siarad eithaf tipyn yn y tŷ, ond tu fas dyw'n ffrindiau i ddim," meddai Caleb.

"Fi ddim yn gweld llawer o glybiau sy'n cael eu cynnal gan bobl sy'n siarad Cymraeg" meddai Ruby.

"Dwi a fy ffrindiau'n gwneud llawer o chwaraeon felly dwi'n gallu siarad Cymraeg gyda nhw yn y clybiau yna."

Cor dur a mor
Disgrifiad o’r llun,

Bu Côr Dur a Môr yn yr Eisteddfod dros y penwythnos

Nid dim ond plant o ysgolion Cymraeg oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod.

Ysgol Saesneg yw Ysgol Bae Baglan ond mae Mark Morgan sy'n dysgu yno yn angerddol ynglyn â rhoi cyfleodd i'w fyfyrwyr glywed y Gymraeg hefyd.

"Mae'n rhoi argraff bositif iddyn nhw.

"Yn anffodus dy'n nhw ddim yn defnyddio'r iaith yn y gymuned, dy'n nhw ddim yn gweld yr iaith.

"Felly, mae popeth y'n ni'n gallu neud yn yr ysgol yn help ac mae e'n gwneud iddyn nhw feddwl sut allan nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol."

Mae angen mwy o ysgolion Cymraeg i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg ac mae angen sicrhau cyflenwad o athrawon a gofalwyr sy'n medru'r iaith, meddai'r adroddiad.

Staff yn mynd ar 'gyrsiau Cymraeg'

Sefydliad arall sy'n cynnig cyfle i staff ddatblygu'r iaith yw meithrinfa Joio - meithrinfa breifat gyntaf yn Abertawe i gynnig gofal plant yn Gymraeg.

"Mae pob aelod o staff sydd ddim yn siarad Cymraeg yn mynd ar gwrs Cymraeg, roedd un aelod o staff gyda ni am ddwy flynedd," meddai Rhiannon Faulkner y perchennog.

"Roedd hi wedi dechrau bant ddim yn siarad Cymraeg o gwbl.

"Erbyn diwedd y ddwy flynedd roedd hi'n siarad Cymraeg i rieni wrth y drws, siarad â'r plant a'r staff eraill hefyd."

Mae'r gweithle yn allweddol wrth ddatblygu cyfleodd i ddefnyddio'r iaith a magu hyder siaradwyr, meddai'r adroddiad.

Lisa Sheppard
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lisa Sheppard: "Ar hyn o bryd ni wrthi'n adnewyddu polisi defnydd mewnol o'r Gymraeg i roi mwy o hyder i staff"

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf uchelgais o gael tua 15% o'i staff yn siarad Cymraeg i adlewyrchu'r ganran sy'n siarad Cymraeg yn lleol.

Dr Lisa Sheppard Thomas yw Uwch Swyddog Cydymffurfio â Pholisi'r Gymraeg yn yr awdurdod.

"Ar hyn o bryd ni wrthi'n adnewyddu polisi defnydd mewnol o'r Gymraeg i roi mwy o hyder i staff sydd â sgiliau Cymraeg i ddefnyddio'r sgiliau rheiny yn y gwaith."

Dechreuodd Scott Thomas weithio mwy drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o drefniadau'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

Mae e'n dweud fod hynny wedi gwneud byd o les i'w hyder: "Falle pum mlynedd n'ôl fydden i ddim wedi siarad Cymraeg yn y tŷ gyda'r plant.

"Ond drwy weithio drwy'r Gymraeg nawr a gweld y cyfleodd sy'n dod gyda'r Gymraeg a'r hyder sydd gyda fi... mae e wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i sut dwi'n byw fy mywyd nawr a fy mherthynas gyda'r iaith."

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i sefydlu ardaloedd o "arwyddocâd ieithyddol uwch", gan ddweud y byddai hynny'n "darparu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i fynd i'r afael â dirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd".

Yn ôl Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor mae hybu'r economi mewn ardaloedd lle mae'r iaith yn gryf, yn allweddol.

"Dwi'n meddwl mai materion economaidd yn y bôn sydd yn dal ni 'nôl fan hyn.

"Ydy'r economi yng Nghymru yn ddigon cryf i gadw'r siaradwyr Cymraeg Ifanc yma, yn enwedig yn y bröydd Cymraeg lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol fyw?

"Oes 'na ddigon yn cael ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu aros yn y cymunedau yma a bo' nhw ddim yn teimlo bo' nhw'n gorfod gadael i chwilio am waith a chychwyn bywyd."

'Nawr yn amser i ni weithredu'

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones yn dweud ei bod hi'n bryd gweithredu wedi cyfnod o gynllunio, deddfu a chomisiynu adroddiadau.

"Mae llawer o bethau da wedi digwydd dros y cyfnod diwethaf er enghraifft pasio deddf y Gymraeg ac Addysg ond dwi wir yn credu bod cyfle mewn cenhedlaeth nawr i wneud mwy, i wneud pethe'n well ac i brysuro'r hyn yr y'n ni yn ei wneud.

"Dwi wir yn meddwl bod nawr yn amser i ni weithredu.

"Ry ni wedi adnabod yr angen i gael mwy o athrawon sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ers amser ond mae angen i ni nawr sicrhau bod yna fframwaith cenedlaethol mewn lle.

"Ry'n ni wedi adnabod ers ychydig bod gweithleoedd yn llefydd a photensial gwych i bobl ddefnyddio eu Cymraeg.

"Mae'r amser wedi dod nawr i ni gynllunio o ddifri yn ein gweithleoedd ni sut y gall pobl fwynhau ddefnyddio eu Cymraeg ac o ran cymunedau ry'n ni wedi gweld cyhoeddi adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac mae'r adroddiad hwnnw yn gwneud yn glir yr hyn sydd angen digwydd".

Ymatebion y pleidiau

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yn ein hatgoffa'n glir pa mor bell yr ydym o hyd o gyflawni'r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg - methiant Llafur i gyflawni'r nod cenedlaethol hanfodol hwn.

Dywedon nhw fod "Plaid Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar argymhellion adroddiad y Comisiwn ar gyfer Cymunedau Cymraeg yn llawn, gan ddangos ein bod o ddifrif wrth fynd i'r afael â'r her hon".

Dywedodd Reform: "Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o dreftadaeth, diwylliant a hanes Cymru ac mae'n bwysig, i bwy bynnag sy'n ennill ym mis Mai, ei bod yn cael ffynnu."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'n duedd bryderus bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd cyn datganoli, ond mae'r niferoedd bellach wedi gostwng yn y ddau ddegawd ers hynny.

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n creu amgylchedd lle gall siaradwyr newydd deimlo'n gyfforddus yn defnyddio ymadroddion sylfaenol a lle gall siaradwyr galluog ymarfer eu Cymraeg."

Dywedodd y Blaid Werdd: "Mae angen i ni wneud addysg cyfrwng Cymraeg yn norm, nid darpariaeth arbenigol sy'n brwydro am sylw os ydym o ddifrif ynglŷn â chryfhau ein hiaith unigryw yn wirioneddol.

"Mae angen i'r llywodraeth adeiladu economïau cryf yn weithredol o fewn ardaloedd lle mae mwyafrif y Gymraeg yn cael ei siarad. Mae angen mwy o gyllid arnom hefyd ar gyfer mentrau sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn defnydd bob dydd o'r iaith."

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae angen gwella addysg a thaclo'r argyfwng diboblogi sy'n effeithio ar gadarnleoedd y Gymraeg a Chymru gyfan.

"Un o brif flaenoriaethau'r Democratiaid Rhyddfrydol yw cadw pobl ifanc yng Nghymru a sicrhau eu bod yn gallu adeiadu dyfodol yn eu cymunedau eu hunain."