20 mlynedd ers yr ornest ddiffiniodd yrfa Joe Calzaghe

Mae 'na 20 mlynedd wedi bod ers i Joe Calzaghe drechu Jeff Lacy
- Cyhoeddwyd
Mae Joe Calzaghe yn cael ei gydnabod fel un o'r goreuon erioed yn y byd chwaraeon yng Nghymru.
Pencampwr byd am 11 mlynedd, gan ennill bob un o'i 46 gornest broffesiynol.
Fe aeth draw i'r Unol Daleithiau a churo rhai o fawrion y gamp - Bernard Hopkins a Roy Jones Jr - ar eu tomen eu hunain.
Ond mae'n ddigon posibl na fyse'r cyfle i ymladd yn Las Vegas ac Efrog Newydd wedi digwydd oni bai am y fuddugoliaeth yn erbyn Jeff Lacy 20 mlynedd yn ôl.

Joe Calzaghe yn llorio Chris Eubank yn 1997
Roedd Calzaghe wedi bod yn bencampwr uwch bwysau canol WBO y byd (super-middleweight) ers curo Chris Eubank yn Sheffield yn 1997.
Dros y naw mlynedd nesaf fe ymladdodd ar 17 achlysur, gan ennill bob gornest.
"Ond doedd pawb ddim wedi cael eu argyhoeddi gan Calzaghe, yn enwedig draw yn yr Unol Daleithau," yn ôl y sylwebydd bocsio John Ifans.
"Roedd yn cael ei gyhuddo gan rai o ddewis gornestau hawdd, rhai yr oedd yn gwybod y byse yn eu hennill."
Mi oedd y wasg yn America yn credu ei fod yn cael gormod o glod am yr hyn yr oedd wedi ei gyflawni yn ei yrfa - hynny yw tan iddo wynebu Jeff Lacy.
Mi gafodd y rhai oedd yn ei amau eu tawelu yn dilyn beth ddigwyddodd ym Manceinion.

Jeff Lacy oedd pencampwr IBF y byd
Roedd Lacy'n cael ei alw y "Mike Tyson nesaf".
Yn bencampwr IBF y byd, doedd y bosciwr o Florida heb golli gornest broffesiynol yn ei yrfa.
Yr wreiddiol mi oedd yr ornest fod i ddigwydd ym mis Tachwedd 2005, ond mi fu'n rhaid gohirio.
"Mi dorrodd Joe asgwrn yn ei law mewn gornest yn erbyn Evans Ashira o Kenya," mae John Ifans yn ei gofio.
"Fe gafodd popeth ei ail-drefnu ar gyfer mis Mawrth 2006, gyda Manceinion fel lleoliad. Ac mi oedd yr ornest am ddau o'r gloch y bore fel fod pawb yn yr Unol Daleithiau yn gallu ei gwylio hi ar y teledu."
Ond fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Calzaghe yn ystod y paratoadau.
Fe anafodd ei arddwrn tra'n ymarfer yn ystod wythnosau cyntaf 2006, ac mi fu'n rhaid i'w dad Enzo ei berswadio i beidio a thynnu nôl o'r ornest am yr eildro.
"Fe ddywedodd y doctor wrthai am beidio ymladd," meddai Calzaghe.
"Ond doedd dad ddim yn cytuno. Fe ddywedodd wrthai fy mod yn ddigon da i'w guro gyda un llaw - ac mi oedd o'n iawn."

Mi oedd hi'n ornest gwbl unochrog gyda Calzaghe yn ennill yn hawdd
Mi oedd y rhan fwyaf o'r gwybodusion yn meddwl y byddai Lacy'n ennill yn hawdd.
Yn un o'r bocswyr gorau erioed - mae Sugar Ray Leonard yn cyfaddef iddo gael ei "synnu" gan Calzaghe y noson honno.
Mi oedd yn berfformiad gwbl anhygoel gan y Cymro.
O'r gloch gyntaf fe gymerodd reolaeth o'r ornest. Fe enillodd bob rownd, gan lorio Lacy am y tro cyntaf yn ei yrfa.
"Mi oedd y cyfuniadau chwith, dde, chwith, dde yn digwydd yn aml - sgoriodd o bwyntiau ymhob un rownd," meddai John Ifans.
"Mae'r rhan fwyaf o focswyr yn arwain gyda'r fraich chwith, ond mi oedd Joe yn arwain gyda'i dde.
"Doedd o ddim yn berchen ar ergyd lethol, ond mi oedd yn defnyddio cyfuniadau mileinig yn effeithiol dros ben. Y ddwy fraich ar waith."
Rhywsut neu gilydd fe lwyddodd Lacy i gwblhau y 12 rownd, ond mi oedd yn gwybod ei hun mai Calzaghe oedd wedi ennill.
"Y perfformiad gorau erioed gan unrhyw fosciwr o Brydain" - dyna oedd geiriau hyfforddwr Lacy, Dan Birmingham, ar ddiwedd yr ornest.

Gornest olaf Joe Calzaghe cyn iddo ymddeol yn erbyn Roy Jones Jr
Mae Calzaghe yn dweud fod trechu Lacy wedi "newid ei yrfa".
Mi oedd 'na fuddugoliaeth nodedig arall yn erbyn Mikkel Kessler yng Nghaerdydd yn 2007, cyn iddo wneud penderfyniad mawr.
Fe ildiodd ei goron fel pencampwr uwch bwysau canol y byd, a chamu fyny i fod yn focsiwr is-drwm (light-heavyweight).
"Mi oedd yn rhaid iddo fod hanner stôn yn drymach sy'n lot i focsiwr proffesiynol," yn ôl John Ifans.
"Ond dyna beth yr oedd yn rhai iddo ei wneud er mwyn gallu ymladd yn erbyn rhai o fawrion y gamp."
Aeth yn ei flaen i guro Bernard Hopkins yn Las Vegas a Roy Jones Jr yn Maddison Square Garden yn Efrog Newydd, cyn iddo ymddeol.
"Sa'r cyfle i fynd draw i'r Unol Daleithiau i ymladd ddim wedi digwydd oni bai am y fuddugoliaeth 'na yn erbyn Lacy," meddai Calzaghe.
"Mae'n deg dweud mai dyna'r ornest wnaeth ddiffinio fy ngyrfa."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Ionawr

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
