Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan

Mae yna newidiadau demograffig mawr wedi bod ym mhentref Llansteffan, a llai o deuluoedd ifanc yn symud i'r ardal
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan, gyda drysau'r ysgol i gau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst.
Fe fydd y disgyblion yn symud i ddalgylch Ysgol Llangain, rhyw 5 milltir i ffwrdd.
Cafodd y cynnig i gau'r ysgol ei gyflwyno yn ffurfiol gan yr aelod cabinet ar gyfer addysg, y Cynghorydd Glynog Davies.
Fe ychwanegodd bod yr awdurdod wedi wynebu beirniadaeth gan Estyn am beidio bwrw mlaen yn ddigon cyflym gyda'r broses moderneiddio ysgolion.
Dywedodd bod rhaid "gwneud penderfyniadau anodd" ar adegau a bod yna 1000 o blant yn llai yn ysgolion sir Gâr o gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig Covid-19.

Fe agorodd yr ysgol bresennol yn y 1950au
Fe wnaeth y Cynghorydd Davies gyfaddef bod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi dwblu o 8 i 16 mewn blwyddyn ond nad oedd yr ysgol yn "gynaliadwy" yn ei ffurff bresennol.
Bu disgyblion a rhieni, ynghyd ag aelodau Cymdeithas yr Iaith yn lobio cynghorwyr cyn y cyfarfod, gan alw am oedi'r broses yn sgil cynnydd yn nifer y disgyblion.
Roedd Cymdeithas Rieni ac Athrawon Llansteffan wedi sgwennu at y cyngor yn dadlau bod yna 17 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn.
Fe ymatebodd 201 o bobl i'r ymgynghoriad, gyda 198 yn erbyn y bwriad i gau Ysgol Llansteffan.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, roedd 46 o blant dalgylch Llansteffan yn cael eu haddysgu mewn ysgolion eraill yn yr ardal, a nid yn Ysgol Llansteffan, ac roedd nifer isel y disgyblion, y nifer fawr o lefydd gwag a'r sefyllfa ariannol yn golygu taw'r argymhelliad oedd i gau'r ysgol.

Bu plant a rhieni Ysgol Gynradd Llansteffan yn protestio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher
Er i'r bleidlais i gau'r ysgol gael cefnogaeth mwyafrif y cynghorwyr, penderfynodd dau aelod o grwp Plaid Cymru, sydd yn cyd reoli'r cyngor, nad oedden nhw yn gefnogol i'r cynnig.
Pleidleisiodd y cynghorydd Jean Lewis yn erbyn y cynnig ac fe benderfynodd y Cynghorydd Meinir James i atal ei phleidlais.

Dywedodd Mared Lenny nad oedd y cyngor wedi gwrando ar y rhieni
Roedd Mared Lenny, sydd yn rhiant yn Ysgol Llansteffan, yn eithriadol o flin gyda'r penderfyniad gan ddweud ei bod hi'n "ddiwrnod trist yn amlwg".
"Mae'r ffordd mae'r cyngor wedi bihafio trwy'r broses yma wedi bod yn hollol anghredadwy," meddai.
"Dyw nhw ddim wedi gwrando i ni fel rhieni.
"Maen nhw bron wedi trin ni fel rhieni, a'r gymuned yn Llansteffan fel gelyn. M
"Maen nhw wedi rhoi safio arian o flaen plant ni a biwrocratiaeth o flaen cymuned ni. Mae'n siomedig."
Ychwanegodd: "os chi'n gofyn i fi, maen nhw'n cau yr ysgol anghywir."
'Mae yna ddigon o le'
Gwrthod yr honiadau wnaeth y Cynghorydd Glynog Davies: "Mae'r trafod wedi digwydd dros flwyddyn ar sawl lefel. Dwi'n teimlo bod ni wedi trafod yn ddigonol.
"Dwi'n ffyddiog ein bod ni wedi dilyn y broses fel y dylsen ni. Ni wedi gwneud yr hyn sydd yn ofynnol i ni. Mae'r swyddogion wedi dod i'r casgliad nad yw ysgol o 16 yn gynaliadwy.
"Mae adeilad Llangain yn iawn. Mae'r swyddogion wedi asesu a dwi wedi holi a holi.
"Mae yna ddigon o le yn Llangain ar gyfer y disgyblion."
Dywedodd llywodraethwr ar ffederasiwn ysgolion Llansteffan, Llangain a Bancyfelin, Huw Iorwerth bod yn hwn yn "fore roedden nhw wedi bod yn poeni amdano ers sbel a ni'n gofidio yn fawr am ddyfodol addysg y plant yn y pentref".
"Y gofid mawr yw bod y cynnig i symud y plant i ysgol Llangain, sydd yn ysgol ardderchog, ond mae'r adnoddau yna yn fach o gymharu â Llansteffan, a dydy hynny ddim yn beth da."
Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith ei bod hi'n "anhygoel" nad oedd "un llais o Lansteffan" i'w glywed fel rhan o'r drafodaeth yn y siambr heddi.
"Dim ond cynghorwyr yn ailadrodd swyddogion."
Mae'n gobeithio y bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn mabwysiadu agwedd mwy cadarnhaol tuag at ysgolion bach.
"Ni wedi derbyn sicrwydd gan Blaid Cymru, os ydyn nhw yn ffurfio llywodraeth ar ôl mis Mai, y bydd adolygu sut mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion fel Llansteffan yn gweithio. Yn amlwg dyw e ddim yn gweithio ar y funud.
Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i fwriad Cyngor Sir Gâr i gau ysgol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Cadw Ysgol Llansteffan ar agor fyddai'r 'anrheg Nadolig gorau'
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Ysgol yn Sir Gâr ag wyth o blant yn ceisio denu disgyblion
- Cyhoeddwyd29 Mai 2025
Dywedodd y Ceidwadwyr taw "ysgolion oedd wrth galon cymunedau, a taw'r cam olaf posib oedd cau ysgolion. Mae teuluoedd yn disgwyl tryloywder gan awdurdodau lleol a thystiolaeth bob opsiwn wedi cael eu hystyried yn llawn. Mae'r Ceidwadwyr yn credu y dylid blaenoriaethu buddiannau disgyblion a chymunedau."
Yn ôl plaid Reform "mae effaith cau ysgolion yn lledu trwy gymunedau. Rydym am weld ysgolion gwledig yn ffynnu."
Dywedodd Plaid Cymru ei bod "yn cefnogi'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig" ac wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r Cod Trefnidaeth ysgolion, ac adolygu'r fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau gwledig.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur a'r Gwyrddion wedi cael cais i ymateb hefyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.