Cyrraedd copa Kilimanjaro ar Ddydd Gŵyl Dewi

Alwen Williams a Sian HarriesFfynhonnell y llun, Llun Cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Alwen Williams a Sian Harries

GanArwel Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dwy Gymraes yn dathlu ar ôl llwyddo i gyrraedd copa mynydd uchaf cyfandir Affrica ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar ben hynny codi o leiaf £70,000 at elusen sy'n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc.

Roedd taith Alwen Williams a Sian Harries i ben Kilimanjaro yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd Ymddiriedolaeth y King's Trust yn 50 oed.

Dywed y ddwy, sy'n wirfoddolwyr gyda'r mudiad, fod yr elusen wedi llwyddo i drawsnewid bywydau miloedd o bobl ifanc a'u bod nhw am ddangos eu gwerthfawrogiad.

"I fi yn bersonol, bues i yn ffodus iawn i gael cymorth beth oedd y Prince's Trust bryd hynny ac sy'n King's Trust nawr," meddai Sian ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru.

Yn y maes awyrFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd

Ychwanegodd Sian, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin ac yn ddarlithydd mewn ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Nes i chwe mis gyda nhw ar un o'u rhaglenni nhw ac oedd hynny yn help mawr i fi.

"Pan wnaethon nhw ddweud bod nhw'n golygu gwneud rhywbeth mawr ar gyfer y pen-blwydd yn 50 i godi arian er mwyn cefnogi pobl a phlant ifanc yng Nghymru, o'n i'n meddwl 'mae'n rhaid i mi roi fy llaw lan yn fan hyn a helpu mas'."

Yn ogystal â'r elusen, hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni, mae Alwen Williams yn wreiddiol o Wytherin, Dyffryn Conwy, ond nawr yn byw yn Yr Wyddgrug.

Dywedodd ei bod yn bwysig codi arian gan "fod yr elusen yma wedi helpu dros 1.3 miliwn o bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig yn y 50 mlynedd diwethaf a mae Sian a fi yn angerddol iawn i wneud yn siŵr bod cenedlaethau'r dyfodol a phlant a phobl ifanc ni rŵan yn cael yr un un math o gefnogaeth yng Nghymru i ffeindio swydd, neu adeiladau hyder neu hyd yn oed gychwyn busnes eu hunain."

Mae'r ddwy yn rhan o dîm o 14 wnaeth lwyddo i gyrraedd y copa.

Tîm y daith yn y maes awyrFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm a goncrodd y copa!

Mae'r tîm eisoes wedi codi dros £70,000 i'r elusen gyda phob aelod wedi talu costau teithio eu hunain fel bod yr holl arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at yr elusen.

Dywedodd Sian ei bod yn gwerthfawrogi'n fawr sut i'w chyfnod gyda'r King's Trust agor drysau iddi.

"Beth ges i mas o'r King's Trust wrth gwrs oedd y profiad o wneud y rhaglen 'ma am chwe mis.

"O'n i ar y pryd ddim yn siŵr lle oedd fy nyfodol yn mynd o ran beth o'n i mo'yn 'neud.

"O'n i bach yn ddihyder a beth wnaeth y King's Trust oedd rhoi'r hyder 'na i mi; rhoi sgiliau cyfathrebu i mi.

"Bues i mas yn gwneud gwaith yn y gymuned, ges i gyfle i weithio gyda phlant ifanc oedd â phroblemau, cafon ni gyfle i weithio mewn cartref lle oedd pobl yn dod mewn i gael respite care, a ges i gyfle i fynd a gweithio gyda'r ambulance service am chwe wythnos.

"Fi'n credu fod yr holl brofiadau 'na wedi helpu fi wedyn pan wnes roi cais i mewn i fynd i'r brifysgol i astudio ffisiotherapi.

"Heb yr holl brofiadau yna efallai byddwn i ddim wedi llwyddo. Fi'n credu yn gryf taw hwnna oedd y cyfle oedd angen arna i, i roi hwb 'mlaen."

Y tîm i gydFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm i gyd

Ar y copaFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ar y copa!

Eglurodd Sian ei bod wedi bod yn ymarfer ar gyfer y daith drwy gerdded rhai o fynyddoedd Cymru.

"Mae Pen y Fan a finnau'n ffrindiau erbyn hyn, fi'n byw ym Mhentyrch just tu fas i Gaerdydd ac mae gennym ni Mynydd y Garth fan hyn ac felly dwi wedi bod yn defnyddio hynny hefyd."

dringo wal BarrancaFfynhonnell y llun, ktmtkili2026
Disgrifiad o’r llun,

Dringo Wal Barranca yn y glaw - camp a hanner!

Er mwyn cyrraedd copa Kilimanjaro ac uchder o 5,895 metr (19,341 troedfedd) bu'n rhaid o dro i dro droi at sgiliau ffisiotherapi Sian, meddai Alwen sy'n brif weithredwr gyda Uchelgais Gogledd Cymru.

"Criw o 14 ohonon ni sy 'na, a mae pawb efo'i reswm personol a'i gefnogaeth bersonol tuag at waith yr elusen a'r angerdd yna tuag at weld pobl ifanc Cymru yn cael y cyfle yna i ffynnu. Felly mae hynny yn tynnu ni at ein gilydd ond yn bendant dwi'n siŵr bydd yna ambell i joint eitha' bregus."

Ychwanegodd: "Dwi'n gwirfoddoli ers o gwmpas 10 mlynedd erbyn hyn efo'r elusen, yn eistedd ar eu bwrdd datblygu nhw yng Nghymru i wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc Cymru yn cael y gorau allan o'r elusen. Felly mae gennyf berthynas eitha' hirdymor efo'r elusen erbyn hyn."

Ar y mynyddFfynhonnell y llun, ktmtkili2026

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig