Cerys Matthews: 'Mae'r Gymraeg yn cuddio ym mhobman'

- Cyhoeddwyd
"Dyna sy'n diddori fi – atsain iaith dros y blynydde a dros ffinie."
Dyna eiriau'r gantores a'r cyflwynydd Cerys Matthews, sydd wedi cael y cyfle i ddysgu mwy am ei mamiaith yng nghyfres Stori'r Iaith ar S4C.
Ac un o'r pethau roedd ar dân i'w ddysgu oedd y dylanwad mae'r Gymraeg a Chymru wedi ei gael ar ieithoedd a diwylliannau eraill.
"Hooligan, brogue, galore, corse... dyma enghreifftiau o eiriau o'r iaith Wyddeleg sy'n cael eu siarad bob dydd mewn Saesneg yn rhyngwladol," eglurodd.
"Shampoo, bungalow, bangle, avatar, cot, dungarees... geiriau o ieithoedd Hindustani sy'n cael eu siarad bob dydd mewn Saesneg yn rhyngwladol.
"Felly beth am y Gymraeg?"

Yr Hen Ogledd, sydd bellach yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban
Ar un adeg, roedd y Frythoneg, a ddatblygodd yn Gymraeg, yn cael ei siarad mewn rhan o'r Lloegr a'r Alban fodern, sef yr Hen Ogledd.
Cafodd yr iaith ei gwasgu i un ardal, sef Cymru, ond mae olion y Frythoneg i'w gweld hyd heddiw, dysgodd Cerys, a hynny mewn nifer o enwau lleoedd ledled Prydain, geiriau Saesneg cyffredin, a hyd yn oed batrwm cyfri defaid yn ardal Cumbria.
"Mae'n troi mas ein bod ni'n siarad Cymraeg bob dydd tra'n siarad Saesneg, o fath - ie, hyd yn oed pobl yn Lloegr, yr Alban a thu hwnt.
"Does dim ond angen edrych ar enwau London, Leeds, Worcester, Torquay, Aberdeen, Manchester - POB dinas sydd â gwreiddiau Brythoneg.
"Crafu'r wyneb yn unig yw hyn - gall unrhyw enw sy'n cynnwys Aber (aber yr afon), Pen, Pont, Avon (afon) neu Coombe (dyffryn) ymuno â'r rhestr.
"Am fwy o eiriau - rhowch gynnig ar corgi, bard, flannel, rowan, crag, seagulls neu fy ffefryn pendant, yn dod o'r gair crempog... rydyn ni'n cael crumpet!

Corgi, Leeds, crumpet, Aberdeen... oll wedi cael eu dylanwadu gan y Gymraeg
Ar ei siwrne drwy hanes yr iaith, mae Cerys yn gweld fod dylanwad y Gymraeg a'r Cymry yn eang, o ddramâu Shakespeare i iaith Sindarin yn The Lord of the Rings i'r cymeriad hudol, Myrddin, a oedd yn hanu o'r Hen Ogledd ond sydd wedi troi'n ffigwr chwedlonol byd-enwog.
Mae hyn i gyd wedi atgyfnerthu ei hangerdd tuag at y Gymraeg, meddai, ac yn ei gwneud hi'n obeithiol ar gyfer dyfodol yr iaith.
"Dwi 'di bod yn lwcus i gael trafeili'r byd gyda 'ngyrfa, ac mae cael blas ar rai o'r diwylliannau anhygoel sydd mas 'na di 'neud i fi werthfawrogi fy mamiaith yn fwy.
"'Rhyfeddol' a 'gwytnwch er gwaetha' popeth' yw'r geiriau sy'n taro fi wrth edrych ar hanes hir a chyfoethog yr iaith Gymraeg; iaith oedd yn cael ei siarad dros Brydain ar un adeg, ac mae ei holion dal yn cael eu gweld.
"Dim jyst ein hanes ni yw hwn – ond ein hanes ni i gyd ym Mhrydain."
Mae cyfres newydd o Stori'r Iaith yn dechrau nos Fercher, 4 Mawrth am 9pm ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. Mae'r rhaglenni yn y gyfres yn cael eu cyflwyno gan Cerys Matthews, Guto Harri, Sarra Elgan ac Ian Gwyn Hughes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023

- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2018
