Heddlu'n lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i ddyn farw'n yr ysbyty

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn trin digwyddiad ym Mhen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr, fel achos o lofruddiaeth, wedi i ddyn 58 oed farw yn yr ysbyty ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu'r De fod y digwyddiad wedi cymryd lle ar Ffordd Felindre yn gynnar fore Sadwrn 28 Chwefror.

Roedd y dyn a fu farw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ac mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai'r llu.

Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 00:00 a 05:00 ar 28 Chwefror, neu sydd gyda deunydd camera o gar, i gysylltu â nhw.

Mae ditectifs eisiau siarad gyda dau dyst posibl - dau berson oedrannus y maen nhw'n credu eu bod wedi cerdded ar hyd Ffordd Felindre rhwng 00.30am a 04:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Graham Williams fod y newyddion am farwolaeth y dyn yn drist a mynegodd gydymdeimladau gyda'i deulu.

"Hoffwn sicrhau'r gymuned leol fod gennym rywun yn y ddalfa ac nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.

"Diolch i bawb yn y gymuned sydd wedi helpu ein hymchwiliad hyd yn hyn," ychwanegodd.