Maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig: Pum peth ddysgon ni

ManifestoFfynhonnell y llun, Athena Pictures
  • Cyhoeddwyd

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i lansio gan wneud addewidion i dorri trethi, gwahardd ffonau mewn ysgolion ac adeiladu ffyrdd.

Dyma'r maniffesto cyntaf i gael ei gyhoeddi cyn etholiad y Senedd, gyda'r Torïaid yn trefnu eu lansiad i sicrhau ei fod allan cyn i blaid Reform lansio eu maniffesto nhw ddydd Iau.

Mae'r blaid yn dweud mai dyma eu cynllun nhw ar gyfer yr hyn y bydden nhw'n ei wneud pe bydden nhw'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Mae hynny'n ymddangos yn dasg anodd gyda'r blaid yn perfformio'n wael mewn arolygon barn, a chyda ASau yn cydnabod yn breifat y gallen nhw golli seddi.

Nid yw'n amherthnasol serch hynny - mae'n debyg y bydd cyfnod allweddol ar ôl yr etholiad lle bydd gwleidyddion yn ceisio darganfod sut y byddai'r llywodraeth nesaf yn gweithredu.

Dyma bum peth mawr a ddysgon ni o'r cyhoeddiad.

Toriadau treth

Mae maniffesto yn gwneud addewidion mawr i dorri trethi, mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld o faniffesto Cymreig o'r blaen.

Byddai treth incwm yn cael ei thorri 1c yn y gyfradd sylfaenol, meddai'r Torïaid, gan arbed £450 y flwyddyn i deuluoedd.

Mae'n debyg y byddai'n costio £311m y flwyddyn, ac mae'r blaid yn dweud y byddai'n dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn Llywodraeth Cymru.

Nid dyma'r unig un - byddai'r blaid yn torri'r dreth trafodiadau tir ar gyfer pob prif gartref ac yn dileu trethi busnes ar gyfer busnesau bach.

'Argyfwng iechyd'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddent yn "datgan argyfwng iechyd" mewn ymateb i'r "argyfwng" yn y GIG, gan ganolbwyntio Llywodraeth Cymru gyfan ar "un nod".

Mae'n bolisi hirhoedlog ac un sydd wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am beidio â bod yn glir iawn beth mae'n ei olygu.

Mae'r blaid hefyd yn addo clirio'r ôl-groniad amseroedd aros yn y GIG erbyn diwedd tymor y Senedd yn 2030, ac ailagor wardiau sydd wedi cau ar unwaith.

Ffordd Liniaru'r M4

Mae'r Torïaid yn dweud y byddent yn adfer cynlluniau ar gyfer Ffordd Liniaru'r M4, a gafodd ei rhoi o'r neilltu gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn 2019.

Ni fyddai'n rhad - y gred oedd y byddai'n costio £1.7bn, cyn i'r rhyfel yn Wcráin wthio prisiau i fyny.

Darren Millar yn cyhoeddi'r maniffestoFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar wnaeth gyhoeddi'r maniffesto fore Mawrth

Mae Darren Millar yn dweud y byddai'n ariannu'r ffordd trwy gyfuniad o arian Llywodraeth Cymru ei hun, trwy fenthyca a thrwy ofyn i Lywodraeth y DU am gymorth.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys uwchraddio'r A55, a gwneud yr A40 i Abergwaun yn ffordd ddeuol.

Gwahardd ffonau mewn ysgolion

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn gallu gosod y rheolau, ac nid oes gwaharddiad ledled Cymru ar blant yn cael ffonau mewn sefydliadau addysg.

Mae defnyddio ffonau symudol wedi'i wahardd mewn ysgolion i blant dan 14 oed yn Sir Fynwy.

Mae'r Torïaid yn dweud y byddent hefyd yn cyflwyno diarddeliadau awtomatig i ddisgyblion sydd â chyllyll ac arfau eraill yn eu meddiant, a chynyddu cyllid ysgolion bob blwyddyn.

Disgrifiad,

Dadansoddiad Elliw Gwawr, ein gohebydd gwleidyddol

Diystyru ymestyn pwerau'r Senedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgyrchu ers blynyddoedd am fwy o bwerau ar bethau fel carchardai a'r heddlu.

Na, meddai'r Torïaid - maen nhw'n dweud y bydden nhw'n diystyru ymestyn pwerau'r Senedd, ac yn benodol bydden nhw'n gwrthwynebu ymdrechion i ddatganoli'r system gyfiawnder.

Maen nhw'n dweud y bydden nhw'n gwrthdroi'r cynnydd yn nifer aelodau'r Senedd, sydd i ddod i rym eleni, o 96 i 60. Mae'r blaid yn dweud y byddai hyn yn arbed £20m y flwyddyn.

O ble ddaw'r arian?

Ni ddaeth costau gyda'r maniffesto.

Dywedodd David Phillips o'r felin drafod cyllid, y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, ei bod hi'n "anodd gweld" sut y gellid talu am y cyfuniad o doriadau treth a chynnydd mewn gwariant sy'n cael ei addo gan y Torïaid "heb doriadau sylweddol mewn o leiaf rhai gwasanaethau Llywodraeth Cymru".

"Mae'n llawer haws addo arbedion effeithlonrwydd na'u cyflawni - ac mae hanes yn llawn llywodraethau sy'n methu â chyflawni targedau cynhyrchiant ac yn gorfod ychwanegu at gyllidebau."