Etholiad y Senedd: Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu maniffesto

Darren MillarFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

"Gadewch i ni drwsio Cymru, gadewch i ni gael Cymru i weithio" meddai Darren Millar

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd - ymhlith yr addewidion mae torri ceiniog oddi ar gyfradd sylfaenol treth incwm ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Fe wnaeth yr arweinydd, Darren Millar, addo hefyd i "fynd i'r afael â'r argyfwng yn ein gwasanaethau iechyd cenedlaethol" a "rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed" wrth iddo ddatgelu cynlluniau ei blaid yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Ceidwadwyr y byddai eu haddewid treth incwm yn arbed £450 y flwyddyn i deuluoedd cyffredin sy'n gweithio.

Maen nhw'n dweud hefyd y byddan nhw yn mynnu refferendwm ar gynyddu treth cyngor o dros 5% a chael gwared ar dreth trafodiadau tir Cymru ar brynu prif gartref.

Ond rhybuddiodd y felin drafod annibynnol uchel ei barch, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, fod y maniffesto "yn brin o gynllun credadwy" ar gyfer yr arbedion sydd eu hangen i ariannu'r toriadau treth arfaethedig.

Bydd pob plaid yn cyhoeddi eu maniffesto - sef rhestr o'r hyn y maen nhw'n addo ei chyflawni petaen nhw'n cael eu hethol ar 7 Mai.

'Cynllun cadarnhaol'

Mae'r Ceidwadwyr wedi perfformio yn wael mewn arolygon barn diweddar gyda rhai yn awgrymu y gallen nhw ddod yn bedwerydd yn yr etholiad.

Er bod y blaid yn dweud yn gyhoeddus y gallan nhw ffurfio'r llywodraeth nesaf, yn breifat mae eu gwleidyddion yn cydnabod y gallan nhw chwarae rhan fach a cholli seddi yn y Senedd newydd - sy'n fwy.

Enillon nhw 16 sedd yn yr etholiad diwethaf yn 2021, gan ei gwneud yr ail blaid fwyaf ar y pryd, ond mae nhw wedi colli Aelodau o'r Senedd ers hynny.

Cyflwynodd Millar ei faniffesto yng Nghaerdydd fel "cynllun cadarnhaol i ryddhau twf economaidd, creu swyddi, hyrwyddo perchnogaeth tai, torri trethi a gwastraff, rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed ledled y wlad, a thrwsio ein gwasanaethau cyhoeddus".

"Mae pobl yng Nghymru yn gweiddi am newid cadarnhaol, dyma ein cynllun credadwy ac wedi'i brisio i gyflawni hynny."

Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi cost eu polisïau yn fanwl, ond dywedodd Darren Millar y byddai toriad treth incwm o 1c yn cael ei ariannu gan "ymgyrch effeithlonrwydd" o 1%-1.5% yn Llywodraeth Cymru, er na nododd ble y byddai arbedion yn cael eu gwneud.

Mae cyfrifydd Llywodraeth Cymru - sef teclyn sy'n amcangyfrif effaith y newid mewn polisi ar gyllid - yn amcangyfrif y byddai toriad o geiniog yn arbed tua £220 y pen i unigolion, ac yn casglu £311m yn llai o dreth.

Mae trethdalwyr yn talu'r gyfradd sylfaenol o 20% ar y £50,270 cyntaf o enillion, ar ôl ystyried y lwfans personol o £12,570.

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu amrywio cyfraddau treth, ond o dan llywodraeth Lafur nid ydy hynny erioed wedi digwydd.

CeidwadwyrFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith eu haddewidion mae'r Torïaid am roi cap ar y cynnydd mewn treth cyngor a gofyn am refferendwm lleol ar gynnydd dros 5%

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddent yn darparu ffordd liniaru'r M4 - prosiect i osgoi'r M4 bresennol, drwy adeiladu traffordd newydd ar Wastadeddau Gwent i fynd i'r afael â thagfeydd ar y draffordd.

Cafodd y prif weinidog yn 2019, Mark Drakeford, wared o'r cynllun, oherwydd ei gost a'i effaith amgylcheddol - y gred ar y pryd oedd y byddai'n costio £1.6bn.

Mae'r Torïaid hefyd yn addo uwchraddio'r A55 a gwneud yr A40 i Abergwaun yn ffordd ddeuol yng Nghymru.

Ymhlith addewidion eraill mae rhoi cap ar y cynnydd mewn treth cyngor a gofyn am refferendwm lleol ar gynnydd dros 5%.

Addo £100m i'r gyllideb ffermio

Mae'r blaid yn dweud y byddan nhw'n ailsefydlu Awdurdod Datblygu Cymru i ddenu buddsoddiad mewnol, hyrwyddo twf busnesau a chreu swyddi.

Mae gostyngiad o £1,000 ar ffioedd dysgu wedi'i addo i fyfyrwyr sy'n astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg.

Byddai ffioedd myfyrwyr nyrsio, meddygaeth, addysgu a deintyddiaeth sy'n astudio yng Nghymru ac yn gweithio am bum mlynedd yn GIG Cymru neu ysgolion y wlad, hefyd yn cael eu had-dalu.

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn addo rhoi hwb o £100m i'r gyllideb ffermio, a gweithredu moratoriwm ar ffermydd gwynt a solar mawr.

Ni fyddai'r blaid yn ceisio cael unrhyw bwerau pellach ar gyfer y Senedd ym Mae Caerdydd, a dydyn nhw ddim am barhau â'r cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd o 60 i 96.

Maen nhw hefyd yn addo peidio â gwario unrhyw arian ar faterion sydd heb eu datganoli.

'Yn brin o gynllun credadwy'

Yn ei ddadansoddiad cychwynnol, cwestiynodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) hygrededd y maniffesto.

Dywedodd David Phillips, pennaeth cyllid llywodraeth ddatganoledig a lleol y felin drafod: "Cynigion blaenllaw'r Ceidwadwyr Cymreig yw gostyngiadau i dri o drethi datganoledig Cymru: cyfraddau treth incwm Cymru, treth trafodiadau tir a chyfraddau busnes.

"Ond ar adeg pan fo pwysau gwariant mewn llawer o feysydd yn cynyddu, rhaid i lywodraeth sydd eisiau torri trethi hefyd ymrwymo i wario llai - ac mae'r maniffesto yn brin o gynllun credadwy ar gyfer o ble y bydd yr arbedion hyn yn dod."

Roedd yn "llawer haws addo arbedion effeithlonrwydd na'u cyflawni - ac mae hanes yn llawn llywodraethau'n methu â chyflawni targedau cynhyrchiant ac yn gorfod ychwanegu at gyllidebau", rhybuddiodd.

Felly roedd yn "anodd gweld sut y gellid talu am y cyfuniad arfaethedig o doriadau treth a chynnydd mewn gwariant heb doriadau sylweddol mewn o leiaf rhai gwasanaethau Llywodraeth Cymru", ychwanegodd Phillips.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.