Llafur yn addo gwario £4bn ar 'ysbytai'r dyfodol'

Mae Eluned Morgan wedi addo "trawsnewid" gofal iechyd meddwl a gwario arian ar ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Lafur wedi dweud y bydden nhw'n gwario £4bn ar "ysbytai'r dyfodol" petawn nhw'n ennill etholiad y Senedd fis Mai.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y byddai'n ailadeiladu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, sydd â rhannau mewn cyflwr difrifol, yn ôl adroddiadau.
Ychwanegodd hefyd y byddai'n ailddatblygu Ysbyty Maelor Wrecsam a chefnogi adeiladu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru.
Mae plaid Eluned Morgan mewn llywodraeth yn y Senedd ers i'r sefydliad agor 27 o flynyddoedd yn ôl, ond mae polau piniwn yn awgrymu y gallen nhw ddod yn drydydd tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK ym mis Mai.

Mae Llafur yn addo gwella ysbytai fel Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd
Wrth gyfarch y dorf tra'n lansio ymgyrch etholiad ei phlaid yng Nghasnewydd ddydd Llun, dywedodd Morgan ei bod yn addo "cynllun 10 mlynedd".
Dywedodd: "Nid dim ond gwasanaeth yw'r GIG, ond addewid," gan ychwanegu bod angen "adfer yr addewid, nid dim ond gyda sloganau, ond gyda'r cynllun buddsoddiad mwyaf yn ein hanes".
Ychwanegodd y byddai'r blaid Lafur yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n "hawdd i'w defnyddio" ar draws Cymru.
Dywedodd bod y blaid yn addo "canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd".
Yr addewid yw cynnig gwasanaethau yr un diwrnod, a bod profion ar gael ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.
Nid dyma'r tro cyntaf i Lafur gyhoeddi cynlluniau am wasanaethau yr un diwrnod, sy'n adeiladu ar y gwasanaeth iechyd meddwl brys 111 'pwyswch dau'.
Mae Eluned Morgan hefyd wedi addo gwella trafnidiaeth i ysbytai, i fod yn fwy llym ar bobl sy'n gadael sbwriel yn anghyfreithlon, ac yn cynnig gwarant ail-hyfforddi am oes, fel bod gweithwyr yn gallu cael cymorth i ddychwelyd neu aros yn y gwaith.
Mae Llafur eisioes wedi cyhoeddi uchafswm pris tocynnau bws o £2, a chyflog drwy'r flwyddyn i gymorthyddion dosbarth.
'Cynnydd allwch chi weld, mesur a theimlo'
Mewn araith, dywedodd arweinydd Llafur Cymru: "Ni all degwch heddiw olygu amynedd di-ddiwedd. Allith o ddim golygu, 'arhoswch efo ni'.
"Mae tegwch heddiw yn golygu cynnydd allwch chi weld, cynnydd allwch chi fesur, cynnydd allwch chi deimlo."
"Mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaeniaeth mwyaf i fywyd dyddiol, ac mi fyddwn ni'n dilifro nhw gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol o lywodraeth".
Mewn neges i'r pleidiau eraill, dwedodd y Prif Weinidog na all problemau polisi gael eu datrys ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Allwch chi ddim gwella rhestrau aros gyda hashnod. Allwch chi ddim cynyddu cyflogau ar TikTok. Allwch chi ddim adeiladu ysbyty gyda pwyllgor. Mae'n rhaid i chi gael cynllun."
Roedd digwyddiad Llafur yn dilyn cynhadleddau gwanwyn y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru fis Chwefror.
Plaid Cymru yn datgelu cynllun 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Ceidwadwyr yn addo 'gwasanaeth wrth gefn' i staffio'r GIG
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
Mae'r blaid Lafur wedi penderfynu peidio cynnal cynhadledd cyn etholiad y Senedd eleni ond maen nhw wedi dweud wrth BBC Cymru bod disgwyl iddyn nhw gynnal un yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yn ôl ffynhonnell o'r blaid doedd dim bwriad cynnal cynhadledd eleni erioed, ond maen nhw wedi cynnal cynhadledd wanwyn cyn etholiad y Senedd yn 2016 a 2021.
Dywedodd ffynhonnell arall o'r blaid: "'Dach chi eisiau pob un o'ch ymgyrchwyr allan ar y drysau pob penwythnos.
"Mae 'na gost/risg o fynd â'ch ymgyrchwyr i Landudno am y penwythnos."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.