Plaid Cymru yn datgelu cynllun 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth

"Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â chynllun gweithredu manwl," meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi addo mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG wrth gyflwyno cynllun 100 diwrnod cyntaf y blaid mewn llywodraeth - pe baent yn ennill etholiad y Senedd fis Mai.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad yw'r cyhoedd yn disgwyl gweld newid i restrau aros y GIG "o fewn tri mis", ond mae ei blaid wedi cynnwys rhestr hir o gynlluniau sy'n ymwneud â gwella'r GIG, codi safonau addysg a darparu "lywodraeth well".
Mae'r cynllun yn cynnwys cynnig i gyfyngu ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion a gwasanaeth bysiau newydd o ogledd i dde Cymru.
Mae'r ddogfen hefyd yn addo nifer o adolygiadau ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, ond nid yw'n egluro faint fyddai rhestrau aros yn gostwng yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ei araith ddydd Gwener, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth bortreadu etholiad y Senedd fel brwydr rhwng Plaid Cymru a Reform
Mae Llafur wedi bod mewn grym ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - fel yr oedd ar y pryd - agor ym Mae Caerdydd 27 mlynedd yn ôl.
Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru yn cystadlu gyda Reform i fod y blaid fwyaf wedi etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Nid ydy'r blaid erioed wedi ennill etholiad ar gyfer Cymru gyfan, ac mae wedi cefnogi llywodraethau Llafur Cymru yn y gorffennol.
'Cenedl yn brin o arian'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod "bron i 27 mlynedd o reolaeth dan arweiniad Llafur wedi gadael ein cenedl yn brin o arian".
"Mae'r GIG o dan bwysau gormodol gan y galw, mae safonau addysg ymhlith y gwaethaf yn Ewrop ac mae'r economi yn dal i fod yn rhy ynghlwm â San Steffan i gael unrhyw rym go iawn.
"Efallai y bydd eraill yn addo newid, ond fel mae'r cynllun hwn yn ei brofi - Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â chynllun gweithredu manwl, sy'n cynrychioli'r arweinyddiaeth gwirioneddol newydd y mae pobl Cymru yn ei haeddu."
Etholiad yn ddewis rhwng Plaid Cymru a Reform - Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Arweinydd Plaid Cymru yn cefnu ar addewid allyriadau sero net
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Plaid Cymru: Bydd prosiectau ynni'n gorfod rhoi elw i gymunedau lleol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Mae'r ddogfen yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn canolbwyntio ar "leihau rhestrau aros" a "chomisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG yng Nghymru".
Nid yw'r ddogfen yn rhoi targed ar gyfer faint y gallai rhestrau ostwng, ond dywedodd y byddai Plaid Cymru yn sefydlu grŵp a fyddai'n gyfrifol am ddarparu hyd at 10 canolfan lawfeddygol ledled Cymru, gydag adroddiad i'w gyhoeddi ddiwedd 2026.
Mae'r ddogfen hefyd yn addo cyflwyno cynllun newydd ar gyfer canser, cynnal uwchgynhadledd i drosglwyddo adnoddau i ofal sylfaenol, a "datblygu cynlluniau lleol" ar gyfer 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed.
Ychwanegodd y byddai'n dechrau gweithio i "ddatblygu" targedau lleihau tlodi plant, ac yn "symud ymlaen â datblygiad cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd" a "chomisiynu arolwg cyflwr adeiladau ysgolion cenedlaethol".
Fe fyddant hefyd yn "paratoi i lansio" gwasanaeth bws cyflym rhwng y gogledd a'r de, yn ogystal â chyfyngu ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion ar gyfer plant o dan 16 oed, yn ôl y ddogfen.

Siaradodd Rhun ap Iorwerth yng nghynhadledd ei blaid yng Nghasnewydd
Yn ei araith ddydd Gwener dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai'n canolbwyntio ei lywodraeth ar "set glir o flaenoriaethau - ar wneud y pethau sylfaenol yn well, fel y gallwn ni wir wella bywydau pobl mewn ffyrdd sy'n bwysig".
Fe wnaeth addo "gwasanaeth iechyd a gofal sy'n gweithio" a system addysg "sy'n canolbwyntio ar roi sgiliau bywyd hanfodol i bob disgybl".
Dywedodd fod y blaid yn gwybod "y bydd arian yn brin a dyna pam y bydd effeithlonrwydd a gwerth am arian wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer llywodraeth effeithiol".
Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, yn y gynhadledd fod llefarwyr yng ngrŵp y blaid yn y Senedd yn bod yn "realistig" wrth weithio ar y maniffesto ar gyfer yr etholiad.
"Mae yna rai pethau y bydden ni wrth ein boddau yn eu gwneud, ond dydy'r cyllid ddim yna ar hyn o bryd," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.