Cymorth i farw: Senedd o blaid rhoi grym i weinidogion reoli gwasanaethau

- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi'r grym i weinidogion reoli gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru, petai deddf San Steffan yn cael sêl bendith.
Roedd 28 pleidlais o blaid, 23 yn erbyn ac fe wnaeth dau Aelod o'r Senedd ymatal.
Mae'r bleidlais nos Fawrth yn golygu y bydd gan weinidogion Cymru y grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y Gwasanaeth Iechyd.
Byddai pleidlais yn erbyn wedi golygu y byddai gwasanaethau cymorth i farw ond ar gael yn breifat.
Ymhlith y rhai a wnaeth bleidleisio yn erbyn oedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles.
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bleidleisio o blaid a Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yn erbyn.
Fe wnaeth Aelodau'r Senedd gefnogi gwelliant Plaid Cymru a oedd yn beirniadu "diffyg ystyriaeth drylwyr gobygliadau cyfansoddiadol y mesur hwn i Gymru".
Mam wedi newid ei barn ar gymorth i farw yn sgil salwch ei mab
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
Cymorth i farw: 'Gallai sefydliadau preifat ddarparu gwasanaeth'
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Petai deddfwriaeth San Steffan yn cael ei chymeradwyo byddai'n galluogi rhai oedolion sydd â salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywydau i ben.
Mae'r pwnc yn parhau i hollti barn, ac mae pryderon gan bobl o fewn y sector iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.
Mae'r mesur yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae cefnogwyr wedi codi pryderon y gallai'r nifer fawr o welliannau olygu na fydd y ddeddfwriaeth yn pasio.

Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, ymhlith yr ASau Llafur a bleidleisiodd yn erbyn
Fe wnaeth sawl AS feirniadu'r broses yn ystod y ddadl nos Fawrth, gan nad ydy'r Senedd hefo'r hawl i benderfynu os ydy cymorth i farw yn cael ei wneud yn gyfreithlon neu ddim.
Roedd sawl un yn anhapus bod y bleidlais wedi digwydd tra bod yr Arglwyddi yn dal i ystyried nifer fawr o newidiadau yn San Steffan.
Hyd yn oed os na fyddai'r bleidlais yn y Senedd wedi digwydd a bod y gyfraith yn cael ei phasio yn San Steffan, byddai cymorth i farw yn gyfreithlon beth bynnag, gyda Senedd Cymru ond yn medru penderfynu sut i weithredu'r gyfraith.
Er hynny, ni chafodd cynnig gan Blaid Cymru i roi rheolaeth lawn dros y mater i Senedd Cymru ei basio.
Mae'r tablau pleidleisio yn dangos bod 21 o ASau Llafur a saith o ASau Plaid Cymru wedi pleidleisio o blaid, a bod pump o weinidogion Llafur a phedwar gwleidydd Plaid Cymru wedi gwrthwynebu.

Pleidleisiodd Adam Price o blaid y mesur, gan ddweud nad oedd am weld gwasanaethau preifat yn unig
Un wnaeth bleidleisio o blaid oedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a esboniodd pam ar Dros Frecwast fore Mercher.
Dywedodd Mr Price mai'r rheswm oedd bod "risg clir iawn pe bawn ni wedi gwrthod y cynnig ar y cydsyniad deddfwriaethol yma, y basa ni'n bennu lan mewn sefyllfa lle byddai yna weithredwyr preifat yn unig yng Nghymru lle mae gwasanaethau cymorth i farw yn y cwestiwn".
"Fyddai yna ddim gwasanaethau trwy'r GIG, felly annhegwch yn dibynnu ar y gallu i dalu, neu ar y gallu i deithio i Loegr."
Dywedodd Alun Davies o'r Blaid Lafur y dylai fod y Senedd wedi gallu gwneud "penderfyniad cyflawn" ar y mater.
Ond ychwanegodd Mr Davies y byddai gwrthod y cynnig wedi gwneud Cymru "yn lle llawer gwaeth i fod".

Roedd Darren Millar yn awyddus i bwysleisio mai "hunanladdiad â chymorth" ydy'r hyn dan sylw
Gwrthwynebodd pob AS Ceidwadol y cynnig, gyda Darren Millar yr arweinydd yn cyhuddo cefnogwyr y gyfraith o "lanhau" y mater.
"Er bod y term cymorth i farw yn cael ei ddefnyddio gan lawer i feddalu'r realiti, rydym mewn gwirionedd yn sôn am hunanladdiad â chymorth," meddai.
Fel "mater o gydwybod" dywedodd na allai "gefnogi fframwaith sy'n trin rhai bywydau fel petai nhw'n llai teilwng o amddiffyniad nag eraill".
'Cymru wedi'i hanwybyddu'
Un arall a wnaeth wrthwynebu oedd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru, a ddywedodd ar Dros Frecwast fore Mercher fod hynny oherwydd bod "gofyn i bleidleisio ar fesur sydd heb orffen ei daith".
"Mae yna 1,000 o welliannau o flaen Tŷ'r Arglwyddi, gwelliannau a fydd o bosibl yn newid yr hyn yr oedden ni wedi ei drafod neithiwr," meddai.
Pwysleisiodd nad oedd yn hapus gyda'r broses gan fod y "bil yn San Steffan yn ymwneud yn llwyr ag iechyd".
"Mae iechyd yn gyfan gwbl wedi ei ddatganoli ac mae Cymru wedi'i hanwybyddu yn y broses tan yn gymharol ddiweddar, heb ystyriaeth oes ganddom ni ddigon o feddygon, o farnwyr, o nyrsys ac yn y blaen a'r staff angenrheidiol ar gyfer gweithredu hyn," meddai Mabon ap Gwynfor.

Fe wnaeth James Evans ymatal ar y sail nad oedd y ddeddfwriaeth wedi'i chwblhau
Fe wnaeth dau AS Reform ymatal rhag pleidleisio.
Roedd James Evans wedi cefnogi egwyddor ehangach cymorth i farw mewn pleidlais flaenorol yn y Senedd 18 mis yn ôl.
Dywedodd wrth y Senedd ddydd Mawrth nad oedd ei safbwynt wedi newid a'i bod hi'n "farn sylfaenol".
Gan gyhoeddi y byddai'n ymatal "gyda chalon drom iawn", dywedodd Mr Evans fod y mesur "yn dal i fod yn waith sydd ar y gweill" a byddai rhoi caniatâd cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei chwblhau yn rhwymo Cymru i fframwaith nad oedd wedi'i orffen eto.
Pleidleisiodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, unig AS y blaid, yn erbyn y cynnig.
'Effaith lai na mae rhai pobl yn credu'
Yn trafod goblygiadau cyfansoddiadol y bleidlais ar Senedd Cymru fore Mercher, dywedodd y bargyfreithiwr Keith Bush - oedd hefyd yn arfer bod yn brif ymgynghorydd cyfreithiol y Cynulliad - fod yr effaith yn "llai na mae rhai pobl yn credu dwi'n teimlo".
"Doedd y bleidlais ddim yn ymwneud â'r egwyddor o ganiatáu cymorth i farw. Does gan y Senedd ddim cymhwysedd deddfwriaethol i ddeddfu ar y cwestiwn hwnnw.
"Yr unig gwestiwn oedd yn cael ei ystyried oedd: 'A ddylai Senedd San Steffan gael yr hawl i gynnwys yn y bil, os gaiff ei basio, darpariaeth sy'n ymwneud ag iechyd yng Nghymru'.
"Yr unig effaith ymarferol oedd gosod rheolau ynglŷn â sut fyddai'r GIG yn bwydo mewn i'r broses o ddod â bywyd rhywun i ben," ychwanegodd Mr Bush.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.