Dros 50% yn gwrthwynebu terfyn cyflymder 20mya - arolwg

Arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod dros hanner o bobl yng Nghymru'n gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 20mya.

Gydag etholiad y Senedd yn prysur agosáu, dyma un o'r prif bynciau sydd wedi codi drwy brosiect y BBC, Dy Lais.

Cafodd y terfyn ei gyflwyno yn 2023, gyda bron i hanner miliwn o bobl yn llofnodi deiseb Senedd Cymru i'w waredu ar y pryd.

Ond yn ôl un arbenigwr mae'r polisi wedi "lleihau damweiniau angheuol" ac "arbed pres" i'r gwasanaeth iechyd.

54% yn gwrthwynebu'r terfyn

Mae arolwg ar-lein gafodd ei gynnal gan Savanta, a gafodd ei gomisiynu gan y BBC, wedi holi 2,086 o bobl a dangosodd bod 54% yn erbyn y terfyn a 30% yn ei gefnogi.

Ar gyfer y bobl oedd rhwng 16 a 34 roedd 49% ohonyn nhw yn erbyn y polisi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriad y polisi yw "achub bywydau a lleihau damweiniau", wrth i adroddiad gan Drafnidiaeth Cymru y llynedd ddangos gostyngiad o 11.8% mewn gwrthdrawiadau ffordd yn y 18 mis cyntaf.

Mae sawl cyngor wedi penderfynu newid rhai ffyrdd yn ôl i 30mya, yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru.

Teleri Jones mewn crys du a Gwyn a chardigan ddu. Yn gwisgo Lanyard siarad Cymraeg a mwclus gyda blodyn melyn.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Teleri Jones ei bod yn clywed cwsmeriaid yn trafod 20mya yn aml

Yng nghaffi'r Hen Lyfrgell ym Mhorth mae'r perchennog Teleri Jones yn dweud bod y terfyn yn bwnc trafod cyson.

"Mae wedi mynd yn eithaf cymysglyd ac erbyn hyn dyw e ddim yn ddigon clir pa rai sy'n 20mya a pha rhai sy'n 30mya. Ac yn aml iawn chi dal yn gweld pobl yn goryrru yn yr ardaloedd yma," meddai.

"Mae cwsmeriaid yn aml yn trafod e. Yn enwedig pan maen nhw wedi cael dirwy, dydyn nhw ddim yn hapus iawn."

John Cullwick mewn siwmper Llwyd a chrys glasFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Cullwick yn teimlo'n "fwy diogel" oherwydd y polisi

Yn ôl John Cullwick, 79 o Ben-y-graig mae'r ffyrdd yn y Rhondda yn "gallu bod yn beryglus".

"Dwi'n hapus â'r terfyn i ddweud y gwir. Dwi'n cyrraedd llefydd yn yr un amser a beth oedden i'n gyrru 30mya ac mae'n saffach i bobl ar y strydoedd."

Disgrifiad,

Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod dros hanner o bobl yng Nghymru'n gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 20mya. Dyma'r farn ym Mhorth.

Er bod y terfyn wedi "dysgu pobl i yrru'n arafach" mae Susan Jones, 70 o Ystrad Rhondda o'r farn ei fod "dros ben llestri".

"I gyrru o Dreherbert i Porth mae'n cymryd hanner awr os chi'n gyrru 20mya trwy'r cwm," meddai.

Rhodri Clarke mewn sbectol a chot dduFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhodri Clark mae'r terfyn cyflymder wedi "arbed pres i'r gwasanaeth iechyd"

Dyw ffigyrau'r arolwg ddim yn syndod i'r gohebydd trafnidiaeth Rhodri Clark.

"Pan ddaeth y polisi mewn oedd hi'n eithaf lot o sioc i bobl. Efallai bod yna lai o bobl yn erbyn y peth erbyn hyn oherwydd mae pobl efallai yn gweld buddiannau yn enwedig ar yr ochr diogelwch."

Esboniodd bod y gwrthdrawiadau angheuol wedi lleihau ar gyfradd mwy o'i gymharu â'r nifer sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol.

"Felly mae'n dangos bod y polisi'n cael mwy o effaith ar y damweiniau gwaethaf," meddai yn enwedig gyda cherddwyr.

Ond mae'n cydnabod bod "ffyrdd gwell o gyfathrebu'r polisi".

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Yn ôl yr adran drafnidiaeth mae pob gwrthdrawiad ffordd yn costio tua £20,000 i'r gwasanaeth iechyd ar gyfartaledd.

Ychwanegon nhw ei bod "hi'n debyg bod y gwasanaeth iechyd wedi arbed pres".

"Mae'n gywir i ailedrych ar bethau o bryd i'w gilydd, ond mae angen bod yn ofalus ein bod ni ddim yn colli rhai o'r buddion os 'da ni'n newid rhai ffyrdd yng nghanol lle mae pobl yn byw yn ôl i 30mya."

Beth mae'r pleidiau'n dweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod "cyflwyno cyfyngiad 20mya yng nghymunedau Cymru wedi achub bywydau, ond roedd y ffordd roedd Llafur wedi rhoi'r terfynau ar waith yn llanast".

"Fe wnaeth Plaid Cymru wthio am adolygiad o sut y cyflwynwyd 20mya, ac rydym yn falch o weld yr adolygiad hwnnw nawr yn digwydd."

Yn ôl Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, nhw "yw'r unig blaid gall waredu'r terfyn 20mya a dod â'r rhyfel yn erbyn gyrwyr i ben."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau anafiadau. Mae ffigurau swyddogol yn dangos, rhwng Gorffennaf a Medi 2025, fod nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya 33% yn is nag yn yr un cyfnod yn 2023."

"Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws, lle mae 20mya yn gyflymder cywir, ei fod yn gweithio'n dda."

Yn ôl Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth a Seilwaith, Sam Rowlands AS, "mae terfyn cyflymder trychinebus Llafur a Phlaid Cymru o 20mya wedi arafu Cymru ac wedi dal ein heconomi yn ôl.

"Nid yw'n syndod bod cymaint yn erbyn y polisi, mae'r cyflwyniad wedi bod yn ddryslyd, yn anghyson ac yn gostus, gyda ffyrdd bellach yn cael eu newid yn ôl ar ôl i'r Llywodraeth wrthod gwrando yn y lle cyntaf."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod "cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya gan Lafur Cymru yn drychineb cysylltiadau cyhoeddus".

"Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gefnogi cynghorau lleol a heddluoedd i wella diogelwch ffyrdd yn yr ardaloedd y maent yn eu hadnabod orau."

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Werdd: "Mae terfynau cyflymder 20mya wedi achub bywydau ac atal anafiadau sy'n newid bywydau ers eu cyflwyno.

"Mae hefyd yn iawn bod cynghorau'n gallu penderfynu sut mae'r rhagosodiad cenedlaethol yn cael ei gymhwyso'n lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.