Mike Bubbins yn herio'i hun i ddysgu Cymraeg mewn blwyddyn

Mike Bubbins mewn crys coch a gwyn yn yr awyr agored gydag adeilad, ffens ac ambiwlans yn y cefndirFfynhonnell y llun, BBC Studios Comedy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Bubbins, seren y gyfres deledu Mammoth, yn dweud ei fod ag awydd gweud setiau comedi yn Gymraeg yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r comediwr a'r actor Mike Bubbins wedi dechrau her o ddysgu'r Gymraeg o fewn blwyddyn, gan obeithio gallu siarad yr iaith gyda'i blant a chysylltu â'i wreiddiau.

Bydd ei daith yn cael ei darlledu yn y rhaglen Mike Bubbins: Welsh Learner ar BBC One Wales nos Sul.

Yn ystod cyfweliad ar raglen Lucy Owen, fe soniodd am benderfyniad ei deulu i anfon ei blant i ysgol Gymraeg a'i brofiad personol o ddysgu'r iaith.

Dywedodd hefyd ei fod yn bwriadu defnyddio'r iaith yn fwy, gan obeithio gallu gwneud setiau comedi yn y Gymraeg y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfweliad, fe ddywedodd Mike sut wnaeth anfon ei blant i ysgol Gymraeg ei ysbrydoli i ddysgu'r iaith.

"Roedd y plant wrth eu bodd," meddai.

"Fe wnaethon nhw ddysgu'r Gymraeg ar unwaith, a diflannodd yr holl bryderon oedd gen i fel rhiant nad oedd yn siarad Cymraeg."

Fe esboniodd sut y cymrodd rhan yn rhaglen Iaith ar Daith gyda'i ffrind Elis James, cyn penderfynu ymrwymo i ddod yn rhugl drwy raglen Un Mewn Miliwn ar S4C a Mike Bubbins: Welsh Learner.

'Well siarad Wenglish a gwella'n araf'

Dywedodd mai'r wers bwysicaf a ddysgodd oedd peidio ag ofni gwneud camgymeriadau.

"Roeddwn i'n arfer poeni am wneud camgymeriadau drwy'r amser, ond dydw i ddim yn poeni am hynny mwyach.

"Bydd pobl sy'n siarad Cymraeg yn gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi'n gwneud yr ymdrech.

"Mae'n well siarad Wenglish, rhoi cynnig arni a gwneud y camgymeriadau hynny ac yna gwella'n araf tra'n cadw'r iaith yn fyw nag aros nes ei bod hi'n berffaith."

Dywedodd ei fod wedi cael cymorth gan bobl fel Eleri Sion a Gareth Edwards, sydd wedi ei ysbrydoli i barhau, yn ogystal â siarad â dysgwyr eraill.

"Byddwn i'n hoffi gwneud gig comedi yn Gymraeg un diwrnod - efallai haf nesaf yn Tafwyl neu yn yr Eisteddfod yn 2027.

"Hoffwn i roi cynnig ar set gomedi pum munud yn y Gymraeg. Byddai hynny'n wych."