Pobl Llanelli mewn 'sioc' wrth glywed bod Gwesty Parc y Strade yn cau

Fe wnaeth cynlluniau i gartrefu mwy na 200 o geiswyr lloches yn y gwesty arwain at brotestiadau ffyrnig yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae tref Llanelli "mewn sioc" yn dilyn adroddiadau bod gwesty - oedd unwaith yn ganolbwynt i ffrae ynghylch cartrefu ceiswyr lloches - wedi cau.
Fe wnaeth Gwesty Parc y Strade ailagor yn 2024 ar ôl tro pedol ar gynlluniau dadleuol y Swyddfa Gartref, a arweiniodd at brotestiadau ffyrnig flwyddyn ynghynt.
Ddydd Llun, dywedodd cynghorydd lleol fod staff yn eu dagrau ar ôl dod i ddeall y byddai'r gwesty'n cau ar unwaith.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r perchnogion a'r gwesty am ymateb.
Protest gwesty lloches: 'Yma mor hir â sydd raid'
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
Cau gwesty ceiswyr lloches oherwydd pryderon tân
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
Does dim modd bwcio ystafell ar wefan y gwesty pedair seren dim mwy.
Dywedodd y cynghorydd annibynnol, Stephen Williams iddo ymweld â'r gwesty brynhawn Llun lle y bu'n rhaid i westeion adael.
"Mae hyn yn ergyd gan fusnes neu sefydliad sydd wedi eu lleoli y tu hwnt i'r dref," meddai.
"I'w gweld nhw [y staff] ddoe yn eu dagrau, roedd hi wir yn dorcalonnus."
Roedd staff i'w gweld yn llwytho ceir ac yn gadael y gwesty ddydd Mawrth hefyd.

Roedd yna wrthwynebiad chwyrn i'r cynlluniau gwreiddiol, ac fe gafodd sawl protest eu cynnal
Yn 2023 roedd adroddiadau y byddai 95 aelod o staff yn colli eu swyddi oherwydd cynlluniau'r Swyddfa Gartref ar y pryd.
Fe wnaeth protestiadau ddwysáu ac fe gafodd sawl person eu harestio.
Fe ddaeth cost yr ymdrech blismona i £1m yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Ar ôl i'r cynlluniau ddymchwel, fe gafodd gwaith adnewyddu ei wneud fel y gallai'r gwesty ail-agor i'r cyhoedd a dywedodd Cynghorydd Williams fod staff wedi bod yn brysur.
"Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r gwesty," meddai.
"'Dwi'n meddwl bod y dref a'r pentref mewn sioc ac wedi eu digalonni."
Dywedodd ei fod wedi siarad â rheolwr y gwesty a'i fod yn ystyried pa gamau i'w cymryd.
'Mewn sioc ac wedi digalonni'
Dywedodd un sy'n byw yn lleol bod rhai wedi troi eu cefnau ar y gwesty ers y protestio.
Yn ôl Nick Morris, roedd rhai wedi dweud "na fyddan nhw byth yn ei ddefnyddio eto", ond bod eraill yn teimlo bod rhaid defnyddio'r gwesty neu ei golli.
Dywedodd un arall, Judith Murphy bod colli'r gwesty yn ergyd fawr: "Dy'n ni wedi trio cefnogi. Mae'r staff mor dda yna.
"Ar ôl popeth ni wedi bod trwyddo, mae'n ofnadwy."
Ychwanegodd ei gŵr, Clive, ei fod yn gobeithio na fyddai'n golygu ailadrodd y "straen a'r trawma" o'r tro diwethaf.
Ychwanegodd arweinydd y cyngor tref fod y gwesty wedi bod yn "rhan bwysig o economi a hunaniaeth Llanelli".
"Bydd y cau sydyn hwn yn achosi pryder ariannol a phersonol sylweddol i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd a rhaid iddyn nhw fod yn flaenoriaeth i ni nawr," dywedodd y Cynghorydd Sean Rees.
"'Dwi wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i waith gael ei wneud yn gyflym gydag asiantaethau perthnasol, gan gynnwys gwasanaethau cymorth cyflogaeth, i sicrhau bod staff yr effeithir arnynt yn derbyn canllawiau clir ar hawliau diswyddo, mynediad at fudd-daliadau lle bo' angen a chyfleoedd i ailhyfforddi neu adleoli o fewn y sector lletygarwch a thwristiaeth leol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.