Hwb ariannol i ddathliadau'r Eisteddfod Genedlaethol i nodi 850 mlynedd

Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal yng Nghastell Aberteifi yn 1176

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau'r Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu 850 mlynedd ers ei sefydlu am elwa o £250,000 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn tanwariant eleni.

Bydd yr hwb ariannol yn ychwanegol at y £238,100 y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi eu rhoi i'r Eisteddfod ar gyfer y dathliadau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, eisoes ei fod yn barod i ailbwrpasu'r tanwariant ym maes Cymraeg 2050 eleni.

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, yn "ddiolchgar iawn" am y gefnogaeth "er mwyn ein galluogi i nodi pen-blwydd mor arbennig".

Cafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Nghastell Aberteifi yn 1176, gyda beirdd a cherddorion yn cystadlu.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y cynlluniau'n "dod â stori'r Eisteddfod gyntaf yn fyw" drwy weithgareddau addysgol, creadigol a chymunedol.

"Ei nod yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a phontio'r gorffennol â'r presennol."

Bydd Eisteddfod y Garreg Las eleni yn cael ei chynnal yn Llantwd, Sir Benfro, sydd lai na phedair milltir o safle Eisteddfod 1176.

Un gweithgaredd fydd pererindod dan arweiniad pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys yn ymweld â phentrefi o amgylch y dalgylch gan deithio o Dyddewi i Gastell Aberteifi.

Bydd cynhyrchiad rhyngweithiol i blant hefyd am hanes yr Arglwydd Rhys, ymysg pethau eraill.

'Anrhydeddu'r gorffennol'

Mewn datganiad fe ddywedodd Mark Drakeford ei fod yn "falch o gefnogi'r digwyddiadau pen-blwydd hyn".

"Maent yn anrhydeddu'r gorffennol, yn dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg heddiw ac yn cyflwyno'r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt."

Yn ôl Betsan Moses mi fydd "elfennau gweladwy iawn i'r cynllun ac yn sicr fe fydd yr orymdaith ar draws y dalgylch yn codi ymwybyddiaeth am yr ŵyl, ein hiaith a'n diwylliant wrth deithio.

"Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i'n gwaith yn y maes cynaliadwyedd, sy'n elfen hollbwysig o brosiect yr Eisteddfod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.