Rheolau newydd Eisteddfod yr Urdd yn 'rhwystredig iawn' i fyfyrwyr

Mae'r Urdd yn dweud iddyn nhw gynnal ymgynghoriad a chasglu barn trawstoriad o gystadleuwyr ar y newidiadau
- Cyhoeddwyd
Mae rhai myfyrwyr wedi mynegi pryder fod rheolau newydd cystadlu 19-25 oed yn Eisteddfod yr Urdd yn "peri gofid" ac yn "rhwystredig iawn".
Eleni mae'n ofynnol i gystadleuwyr unigol, deuawdau, triawdau a grwpiau ensemble gystadlu yn eisteddfodau'r rhanbarth cyn mynd ymlaen i'r genedlaethol.
Fel arfer roedd cystadleuwyr 19-25 oed yn y cystadlaethau uchod yn cael mynd yn syth i gystadlu ar lefel genedlaethol.
Doedden nhw ddim felly yn gorfod dysgu eu darnau mor gynnar, a doedd dim cyfyngiad ar y nifer oedd yn cael cynrychioli'r rhanbarth.
Mae'r Urdd yn dweud iddyn nhw gynnal ymgynghoriad a chasglu barn trawstoriad o gystadleuwyr a'u bod wedi gwahodd pob aelwyd yng Nghymru i fod yn rhan o'r ymgynghoriad.
"Roedd y farn yn gryf fod cael y cyfle i gystadlu a derbyn beirniadaeth adeiladol cyn y rownd derfynol yn bwysig," medd llefarydd.
Rheolau newydd Eisteddfod yr Urdd yn 'rhwystredig iawn' i fyfyrwyr
Mae hawl gan gystadleuwyr gystadlu yn yr eisteddfod rhanbarth sy'n lleol iddyn nhw, neu sy'n lleol i ble maen nhw'n derbyn eu haddysg neu hyfforddiant.
Mae rhai cystadlaethau mwy yn cael mynd yn syth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Mae myfyrwyr yn dweud bod y newid wedi "anghofio amdanyn nhw".

"Mae'r sefyllfa yn hynod rwystredig," medd Elain Iorwerth, cadeirydd Aelwyd JMJ
Dywedodd cadeirydd Aelwyd JMJ ym Mhrifysgol Bangor, Elain Iorwerth, ei bod yn teimlo y gallai'r newid arwain at lai o bobl yn cystadlu.
"Dwi'n ffeindio'r sefyllfa'n hynod o rwystredig," meddai.
"Dwi'n meddwl bydd llai o bobl yn cystadlu ac yn cyrraedd y genedlaethol. Mae'n fwy o straen cael popeth yn barod erbyn mis Mawrth yn lle mis Mai.
"O'r blaen, doedd y rhan fwyaf ohonom ni ddim yn meddwl yn ddifrifol am y cystadlaethau tan fis Ebrill.
"Mae'n lot o waith trefnu pawb a chael amser i ymarfer... Mae cerdd dant yn cymryd lot o amser i'w baratoi."
'Wedi'i wneud yn frysiog'
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod y penderfyniad wedi dod allan o nunlle.
"Er bod sôn am ymgynghori, does neb yn ein haelwyd ni wedi cael ei gynnwys.
"Mae'n teimlo fel penderfyniad wedi'i wneud yn frysiog, heb lawer o eglurder."

Dywed Huw Williams, llywydd UMCB ei fod yn cydnabod bod hi'n anodd cael y "balans perffaith" ond nad yw'r trefniant presennol yn iawn i fyfyrwyr
Poeni bod y newid yn dod ar amser prysur i fyfyrwyr mae Huw Williams, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, hefyd.
"Mae dipyn o'n myfyrwyr ni ar leoliadau gwaith – nyrsys, myfyrwyr addysg ac ati – felly mae hynny'n her ynddo'i hun.
"Mae ganddyn nhw ymrwymiadau fel rhan o'u cyrsiau.
"Mae hi'n anodd iawn cael y balans rhwng ymarfer ar gyfer yr Urdd ac ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol, yn enwedig gan fod y ddwy yn digwydd yn agos at ei gilydd, ac yn agos at arholiadau a placements.
"Mae myfyrwyr yn brysur iawn, felly bydd hwn yn gyfnod hynod o brysur i'r rhai sy'n cystadlu yn y rhanbarth.
"Mae'n rhaid i ni wneud Eisteddfod Sir ychydig ddiwrnodau cyn yr Eisteddfod Ryng-golegol, ac mae hynny'n golygu wythnos ychwanegol o waith trefnu ac ymarfer."
Ychwanegodd er hynny ei fod yn llwyr ymwybodol ei bod hi'n anodd cael y "balans perffaith" a bod yn "rhaid cydnabod bod cymaint o aelwydydd rhanbarthol ledled Cymru".
Penderfynu peidio cystadlu
Roedd Elis Massarelli-Hughes wedi bwriadu cystadlu yn yr unawd piano eleni, ond oherwydd yr amseru newydd a'r "pwysau ychwanegol", mae wedi penderfynu peidio cystadlu.
"Mae gen i gyngerdd diwedd blwyddyn efo'r piano yn y coleg yng nghanol mis Mai," meddai.
"Gydag eisteddfod y sir yn digwydd ym mis Chwefror, o safbwynt perfformio mae'n anodd iawn cael darn i safon mor gynnar, ac wedyn cadw'r safon honno am fisoedd er mwyn perfformio eto yn y genedlaethol efo'r un darn.
"Yn enwedig yng nghanol gwaith coleg a digwyddiadau eraill – mae'n anodd iawn i fyfyrwyr gadw'r safon honno dros gyfnod mor hir."

Mae Elis Massarelli-Hughes wedi penderfynu peidio cystadlu eleni
Ychwanegodd ei fod yn "sicr bydd llai o bobl yn cystadlu".
"Mae gynnon ni gymaint o fyfyrwyr yma ym Mangor sy'n dod o'r de ac fydd yn teithio nôl i gystadlu," meddai.
"Does 'na ddim synnwyr yn y penderfyniad, yn enwedig gan fod y teithio yng nghanol cyfnod arholiadau.
'Heb ystyried myfyrwyr'
Mae'r Urdd yn dweud yn gwbl eglur y gall myfyrwyr gystadlu yn y rhanbarth y maen nhw'n derbyn eu haddysg.
Ond mae unigolion wedi dweud nad ydyn nhw am gystadlu yn erbyn ei gilydd, ac felly maen nhw'n teimlo rheidrwydd i ddychwelyd i ranbarth eu cartrefi.

Bydd Begw Fussell yn dychwelyd i'w chartref i gystadlu
Un o'r rheiny yw Begw Fussell, sy'n dweud bod y newid yn "rhwystredig iawn".
"Fi'n teimlo fel bo' nhw heb gymryd i ystyriaeth myfyrwyr sydd yn y brifysgol," meddai.
"Fi o'r de, felly mae gyrru pedair awr i fynd i ragbrawf y sir, jyst i ganu am ddwy funud, ac wedyn gyrru pedair awr yn ôl, yn rhwystredig iawn."
Ychwanegodd Elain Iorwerth: "Dwi'n dod o Feirionnydd, ond rŵan mae'n rhaid i mi ddewis cystadlu o dan aelwyd JMJ mewn sir hollol wahanol ac enfawr, neu fynd adre i gystadlu yn fy sir leol fach fel o'r blaen.
"Os dwi'n cystadlu yn y triawd yn Eryri, dwi ddim isio mynd adre wedyn i gystadlu'n unigol ym Meirionnydd. Mae hynny'n andros o rwystredig."
'Dim digon o amser'
Mae Branwen Medi Jones yn un sy'n gyfarwydd iawn â llwyfannau eisteddfodol, wedi dod yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth dros y blynyddoedd.
Ond eleni, mae hi'n dweud ei bod yn teimlo'n "rhwystredig, mwy na dim arall".
"Dwi'n teimlo'n rhwystredig achos dwi'n meddwl mai'r amser paratoi yw'r peth mwyaf i fi," meddai.
"Mae'r darnau'n mynd yn heriol dan 25, a 'di'r amser mae'r Urdd wedi rhoi i ni ddim yn ddigon i fi.
"Dwi'n gorfod dysgu lot o ddarnau – rhai heriol – a ella ddim hyd yn oed gallu mynd drwodd i'r genedlaethol.
"Dwi'n meddwl ma'i ond yn deg yn yr oedran yma bod ni'n cael dangos ein doniau.
"Mae'r Urdd fod i ddathlu doniau pobl ifanc, ac wrth drio gwneud hyn, maen nhw'n rhoi rhwystredigaeth ar hynny."

"'Di'r amser mae'r Urdd wedi rhoi i ni ddim yn ddigon i fi," meddai Branwen Medi Jones
Roedd Branwen hefyd wedi edrych ymlaen at y cyfle i gystadlu mewn deuawd eleni.
"Roedden i'n edrych ymlaen i'r oedran yma gan mai hwn oedd blwyddyn gynta' fi i allu dewis pwy o'n i isio 'neud deuawd efo," meddai.
"Roeddwn i a Twm yn bwriadu 'neud deuawd eleni gan bod o'n haws achos bo' ni ddim yn gorfod bod yn yr un ysgol na'r un sir.
"Ond achos bod ni o ddwy sir wahanol mae o'n dipyn o sialens.
"Fydda i'n gorfod cystadlu yn Sir Ddinbych i ddechrau, wedyn teithio i Sir Fôn, a dwi ddim yn siŵr sut fydd hynny'n gweithio."
Newid cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd wedi dod yn 'rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
Trefn gystadlu newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd saith diwrnod
- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
Er bod rhestr testunau'r Eisteddfod wedi cael eu cyhoeddi fis Medi, dywedodd Branwen fod y newid hefyd wedi cael effaith ar y broses o osod darnau cerdd dant.
"O'n i'n meddwl bod gen i tan fis Mai i osod darnau i fi fy hun – unawd, deuawd a grŵp – a dwi wedi cael fy ngofyn i 'neud y rhai iau hefyd.
"So mae gen i bedwar neu bump o osodiadau i 'neud cyn mis Mawrth.
"Ma'n rush, a wedyn trio cael y ceinciau i gyd a'r geiriau. Ma' jyst yn mynd yn rush mawr."
'Cyfle i gystadlu cyn cyrraedd llwyfan y Genedlaethol'
Mewn ymateb i'r pryderon, dywedodd Urdd Gobaith Cymru fod y newidiadau yn dilyn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn haf 2025, fel rhan o'r gwaith cynllunio ar gyfer gŵyl saith diwrnod.
"Roedd cynrychiolaeth o unigolion 19-25 oed a phob aelwyd yn rhan o'r broses ymgynghori," meddai llefarydd.
"Roedd barn gref ymhlith rhai yn y grŵp oedran hwn fod cael y cyfle i gystadlu cyn cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn flaenoriaeth, ac y byddent yn gwerthfawrogi derbyn beirniadaeth adeiladol yn gynharach er mwyn mireinio eu perfformiadau cyn y rownd derfynol."
Mewn ymateb i bryderon myfyrwyr prifysgol ynghylch amseru arholiadau a theithio, dywedodd yr Urdd fod hyblygrwydd yn y trefniadau newydd.
"Mae'r drefn yn caniatáu i gystadleuwyr 19-25 oed gofrestru i gystadlu naill ai yn y rhanbarth lle maent yn byw neu yn y rhanbarth lle maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant.
"Os oes gan unrhyw gystadleuydd bryderon penodol ynghylch arholiadau neu amseru, rydym yn eu hannog i gysylltu â'u Swyddog Cymunedol cyn gynted â phosibl er mwyn trafod yr opsiynau mwyaf ymarferol."
Ychwanegodd y llefarydd nad yw'r mudiad wedi gweld gostyngiad yn nifer y cystadleuwyr yn y grŵp oedran 19-25 eleni o'i gymharu â'r llynedd.
"Rydym yn ddiolchgar am ymrwymiad parhaus ein cystadleuwyr hŷn, ac er bod y dyddiad cau swyddogol wedi pasio, rydym yn parhau i dderbyn cofrestriadau hwyr er mwyn sicrhau nad yw unrhyw un sy'n awyddus i gymryd rhan yn colli'r cyfle."
Dywedodd yr Urdd hefyd eu bod yn parhau i ymrwymo i gryfhau'r cyfleoedd sydd ar gael i berfformwyr hŷn, gan bwysleisio eu cefnogaeth barhaus i ddatblygu a dathlu doniau pobl ifanc ledled Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.