Hyfforddwr ceffylau 'wedi curo pensiynwr gyda ffon hoci' - achos llys

Evan Williams Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd bod y cyhuddiadau yn erbyn Evan Williams yn ymwneud ag ymosodiad honedig ar 4 Rhagfyr 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sy'n hyfforddi ceffylau ar gyfer y Grand National wedi ei gyhuddo o guro pensiynwr gyda ffon hoci ar ôl credu ei fod yn hela ar ei dir, mae llys wedi clywed.

Mae Evan Williams, 54, o Fro Morgannwg wedi pledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ac achosi niwed corfforol difrifol i Martin Dandridge ar 4 Rhagfyr 2024 yn Llancarfan.

Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd yr erlyniad bod Mr Williams wedi bwriadu achosi niwed sylweddol i Mr Dandridge, 72, oedd yn rhentu bwthyn gwyliau ger caeau marchogaeth a safle hyfforddi ceffylau Mr Williams.

Dywedodd William Bebb ar ran yr erlyniad bod Martin Dandridge yn rhentu'r bwthyn er mwyn bod yn agos at ei ferch oedd yn mynd i roi genedigaeth, ac roedd hefyd yn gofalu am gi'r teulu.

'Golau wedi tynnu sylw'

Dywedodd Mr Bebb wrth y llys: "Roedd yn noson dywyll, ac roedd Mr Dandridge wedi mynd â'r ci am dro cyn mynd i'r gwely tua 21:00, gan wisgo tortsh ar ei ben, ac roedd gan y ci hefyd olau wedi ei osod ar ei goler.

"Fe wnaethon nhw gerdded ger padog Evan Williams ac fe wnaeth y golau dynnu sylw Mr Williams."

Yn ôl Mr Bebb roedd dau blismon hefyd gerllaw ar ddyletswydd yn cadw golwg am droseddau cefn gwlad.

Dywedodd bod Mr Williams wedi gyrru at y plismyn a dweud wrth y swyddogion bod rhywun yn defnyddio goleuadau i ddallu anifeiliaid ar ei dir (lamping), gan ychwanegu "rwy'n mynd i'w herio nhw".

Fe ddilynodd yr heddlu Mr Williams.

Dywedodd yr erlyniad i Mr Dandridge weld dyn yn dod allan o gar gan ofyn "beth wyt ti'n ei wneud", ac roedd yn cario ffon hoci, meddai'r erlyniad.

Mae'r erlyniad yn honni i Mr Dandridge gael ei daro sawl gwaith, gan gynnwys ar ei frest, ei goes, ei fraich a'i wyneb.

Yn ôl Mr Bebb roedd Mr Dandridge mewn sioc llwyr.

"Dyma ddyn oedd yn mynd â'i gi am dro, a nawr mae'n wynebu ymosodiad gyda ffon hoci," meddai.

Llys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan Williams yn gwadu dau gyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Dandridge wedi ceisio egluro ei fod yn aros yn y bwthyn gwyliau, ond nad oedd y diffynnydd wedi deall hynny.

Dywedon nhw fod Mr Dandridge wedi cael anaf i'w fraich yn ystod yr ymosodiad.

Roedd Connor Ring, joci a phartner merch Mr Williams hefyd yn bresennol, ac fe geisiodd symud Mr Williams i ffwrdd.

Dywedodd yr erlyniad bod Mr Dandridge mewn sioc ac yn amlwg mewn poen, a chafodd ei gludo i'r ysbyty lle ddangosodd archwiliad pelydr-X ei fod wedi torri asgwrn yn ei fraich, a chafodd ei roi mewn cast.

Cafodd Evan Williams ei arestio ar 5 Rhagfyr 2024, ac mewn cyfweliad gyda'r heddlu fe wadodd ymosod ar Martin Dandridge gyda ffon hoci, gan ddweud bod yr anafiadau a gafodd wedi deillio o gael ei dynnu gan ei gi i ffos.

Fe wadodd Mr Williams bod ganddo ffon hoci, gan ddweud ei fod yn cario rhaff yr oedd yn ei ddefnyddio i dywys ceffylau, a'i fod yn bwriadu ei ddefnyddio ar y ci os oedd yr anifail yn rhydd.

Dywedodd Mr Bebb wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd: "Mae'r erlyniad yn dweud bod hwn yn ymosodiad bwriadol gyda ffon hoci."

Fe wnaeth yr erlyniad alw ar Martin Dandridge i gyflwyno tystiolaeth, a dywedodd wrth y llys ei fod yn aros mewn bwthyn gwyliau gyda'i wraig, ac roedd wedi bod yno am dair wythnos cyn y digwyddiad.

Dywedodd Mr Dandridge bod yr ymosodiad wedi digwydd tridiau cyn ei ben-blwydd yn 71.

Dywedodd wrth y llys: "Roeddem yn edrych ar ôl ci fy chwaer ar ôl iddi gael babi, a gwnes i gerdded Gulliver pob bore a phob nos yn agos i stablau'r ceffylau rasio."

Esboniodd fod y ci ar dennyn a oedd yn ymestyn, "a gwelais i olau yn dod ata ar gerbyd".

"Fe wnaeth dyn ddod ata i gan weiddi a swnio'n flin ac roedd yn cario gwrthrych wrth iddo nesáu, yna gwnes i sylwi mai ffon hoci oedd e."

'Cario'r ffon hoci gyda'i ddwy law'

Dywed Mr Dandridge wrth y llys fod Mr Williams yn "cario'r ffon hoci gyda'i ddwy law", ei fod wedi ei daro ar ei gefn yn gyntaf, a'i fod yn "boenus".

"Ro'n i'n meddwl 'mod i am farw a doedd dim byd y gallwn i wneud."

Dywedodd fod yr heddlu wedi cyrraedd a'i gynghori i orwedd ar y llawr. Cafodd ei gymryd yn ôl i'r bwthyn a dywedodd swyddog heddlu ei fod yn "tresmasu".

Atebodd ei wraig gan ddweud: "Si dyma chi'n gwneud i dresmaswyr?"

Wrth groesholi, fe wnaeth David Elias KC a oedd yn amddiffyn, gyfeirio at lun o anafiadau pen Mr Dandridge.

Dywedodd Mr Elias: "Ti'n dweud bod yr anaf hwn wedi ei achosi gan ffon hoci. Ond fe ddigwyddodd yr anaf wrth ddisgyn ar y tir caregog yn y padog, do?"

Fe wnaeth Mr Dandridge wadu iddo ddisgyn.

Aeth David Elias KC ymlaen i ddweud bod yr heddlu "yno yn sydyn, ac fe wnes di ddweud wrthyn nhw 'fy mai i yw'r cyfan', a gwnes di ddim sôn am gael dy daro na sôn am unrhyw arfau".

"Roedd Mr Williams yn cerdded y tu ôl i ti ac yn ymddiheuro eich bod wedi cael anaf ar ei dir, a gwnes di dal ddim sôn am gael dy daro."

Dywedodd Mr Dandridge: "Unwaith i mi weld fy ngwraig, mi wnes i son am yr ymosodiad tra roedd yr heddlu yn bresennol."

Mae Evan Williams yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig