Prydain yn 'anghyfforddus' i Iddewon - biliwnydd o Gaerdydd

- Cyhoeddwyd
"Mae Prydain yn lle anghyfforddus i Iddewon heddiw," meddai biliwnydd o Gaerdydd, sy'n byw yng Nghaliffornia.
Mae Syr Michael Moritz yn dadlau bod y DU yn lle "llawer mwy gelyniaethus" tuag at Iddewon na'r Unol Daleithiau.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Syr Michael fod gwrth-semitiaeth yn rhywbeth sydd "wastad yn yr aer," gan ychwanegu ei fod yn gweld nodweddion cyfoes sy'n debyg i'r ffordd gafodd ei deulu ei erlyn gan y Natsïaid.
Cyfeiriodd at ymosodiad angheuol ar synagog Heaton Park ym Manceinion ym mis Hydref 2025, gan ddweud bod gan rai o'i deulu gysylltiadau personol â phobl oedd yno ar y diwrnod.
'Mae gan bobl ofn ym mhobman' - pryderon diogelwch ymhlith Iddewon
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
Dynes sy'n byw ger synagog Manceinion ag 'ofn ofnadwy'
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2025
Hanes y gymuned Iddewig yng Nghymru
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
Yn ei farn ef, mae digwyddiadau o'r fath yn tanlinellu'r peryglon y mae Iddewon yn eu hwynebu ym Mhrydain heddiw.
Er iddo gydnabod bod gwrth-semitiaeth yn bodoli ym mhob cymdeithas, "yn fy mhrofiad i, mae Prydain yn fwy gelyniaethus (hostile) na'r Unol Daleithiau," meddai.

Syr Michael yn blentyn (ar y dde) yn eistedd gyda'i fam Doris, ei chwaer a rhieni ei fam
Mae Syr Michael, sy'n 71 oed, yn cael ei ystyried fel y Cymro cyfoethocaf erioed, gyda'i ffortiwn wedi'i adeiladu drwy fuddsoddiadau cynnar a hynod lwyddiannus mewn cwmnïau technoleg fel Yahoo a Google.
Ond yn ei gofiant pwerus Ausländer – gair Almaeneg sy'n golygu 'estron' neu 'ddieithryn' – mae'n olrhain hanes ei deulu o dan y Natsïaid.
Cafodd rhieni ei dad, Max a Minnie Moritz, eu lladd yn yr Holocost, ynghyd â nifer fawr o berthnasau eraill.
Wrth ddefnyddio archifau cyhoeddus, gwelodd fod y Gestapo wedi cymryd ffotograff o ddau berthynas – ei hen-ewythr Oskar Moritz a'i gefnder ef, Mira Marx – wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i fynd ar fysiau fyddai'n eu cludo at eu marwolaeth.

Mira Marx - cafodd y llun ei dynnu yn Ebrill 1942 gan y Gestapo wrth iddi gael ei gorfodi i fynd ar fys fyddai'n ei chludo i'w marwolaeth
Llwyddodd rhieni Syr Michael i ddianc o'r Almaen a setlo yng Nghaerdydd, lle cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Howardian, sydd bellach wedi cau. Dywedodd fod y teimlad o fod yn "ddieithryn" wedi ei ddilyn ers plentyndod.
Cofiodd, fel bachgen ifanc, agor y llyfr ffôn a phori'r dudalen o dan y llythyren "M", gan obeithio nad ei deulu ef oedd yr unig Moritz o hyd.
Roedd digonedd â'r cyfenw Evans neu Thomas, meddai, ond roedd bod yr unig 'Moritz' yn teimlo fel label parhaol o fod yn wahanol.
Er gwaethaf ei lwyddiant personol eithriadol, dywedodd fod cyfarfod â'r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan yn 2001 wedi ail-ddeffro'r teimladau hynny.
Yn ystod taith fasnach gan Lywodraeth Cymru i Silicon Valley, dywedodd Syr Michael fod Rhodri Morgan wedi agor y sgwrs gyda sylw am ei gefndir Iddewig.
"Felly Michael, beth mae bachgen Iddewig neis fel ti'n ei wneud yn Silicon Valley?" yw'r dyfyniad, yn ôl Syr Michael.
Dywedodd fod y geiriau wedi ei dynnu'n syth yn ôl i'w blentyndod yng Nghaerdydd, gan godi "yr holl deimladau hynny o beidio â bod yn Gymro, o fod yn wahanol. Fe darodd nerf."

Mae Syr Michael wedi buddsoddi mewn nifer o gwmnïau llwyddiannus dros y degawdau diwethaf, gan gynnwys yng nghwmni technoleg ariannol Klarna
Dywedodd Syr Michael iddo benderfynu peidio ymateb ar y pryd.
"Fe wnes i ddal fy nhafod," meddai. "Doedd dim angen ffraeo… ond yn amlwg fe dorrodd yn ddwfn, ac rwy'n ei gofio."
Dywedodd nad yw'n credu bod sylwadau o'r fath yn gysylltiedig â "llawer iawn o falais", ond eu bod yn rhan o batrwm ehangach a ddisgrifiodd o dyfu i fyny a byw fel Iddew ym Mhrydain.
Cyfeiriodd hefyd at straeon am blant Iddewig yng ngogledd-orllewin Llundain sy'n osgoi gwisgo'u siacedi ysgol rhag cael eu targedu.
O ganlyniad i'r hyn y mae'n ei weld fel hinsawdd gynyddol ansicr, mae Syr Michael yn ymgeisio am basbort Almaenig, rhywbeth mae'n ei ddisgrifio fel "polisi yswiriant".
Dywedodd fod hanes yr Almaen, a'r ffordd mae'r Holocost yn ganolog yn y system addysg, yn cynnig rhyw fesur bach o sicrwydd.
Ar faterion busnes, dywedodd Syr Michael fod y DU ac Ewrop yn llai deniadol i fuddsoddwyr nag America neu Tsieina, gan nodi diffyg marchnad unedig a beirniadu rhai byrddau cwmnïau am ddiffyg arbenigedd technolegol.
Wrth droi at ddeallusrwydd artiffisial, dywedodd y gallai'r dechnoleg fod yn hynod ryddfrydol i bobl greadigol sy'n gwybod sut i'w defnyddio, ond ei bod yn debygol o fod yn "hynod aflonyddgar" i weithwyr swyddfa llai medrus.
Yn ei farn ef, bydd yn bosibl rhedeg busnesau gyda llawer llai o bobl yn y dyfodol.

Alfred a Doris, rhieni Syr Michael, ar eu diwrnod priodas yn 1949
Er ei fod yn ymddangos yn rheolaidd ar dop rhestrau'r bobl fwyaf cyfoethog o Gymru, dywedodd Syr Michael fod ei fam, Doris, yn fenyw hynod gynnil.
"Roedd hi wastad ag ofn sefyll allan," meddai, gan ddweud iddi "dychryn" wrth weld enw ei mab yn y papurau newydd.
"Dwi'n meddwl tan ddiwedd ei hoes, roedd hi'n meddwl efallai mai troseddwr o'n i," meddai wrth chwerthin.
"A dwi'n sicr, os oeddwn ni'n eistedd yn yfed te yn ei ystafell fyw yma yng Nghaerdydd ac fe ddaeth cnoc wrth y drws, ac os agorodd hi'r drws i weld heddwas, fyddai hi wedi dweud, 'O, mae'n rhaid eich bod chi'n chwilio am Michael!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.