Buddug ar y brig deirgwaith yng Ngwobrau'r Selar

Cipiodd Buddug tair gwobr yng Ngwobrau'r Selar yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau'r Selar gan gipio tair gwobr yn y noson a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 21 Chwefror.
Daeth y gantores o Frynrefail i'r brig am wobr yr Artist Unigol Gorau, ac roedd yn fuddugol hefyd gyda'r gân Disgyn yn nghategorïau'r Gân Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau.
Roedd Buddug yn llwyddiannus yn yr un seremoni y llynedd hefyd pan enillodd bedair gwobr.
Roedd yna wobrau hefyd i Dafydd Owain, Mr Phormula a Martha Elen ac fe gafodd gwobr band orau'r flwyddyn ei rhannu rhwng ddau grŵp, Bwncath a Pys Melyn.

Buddug a'i band yn cael noson lwyddiannus yng Ngwobrau'r Selar
Roedd yn noson lwyddiannus hefyd i'r band Mynadd o ardal Y Bala, a gipiodd y wobr am y Gwaith Celf Gorau.
Martha Elen a hawliodd deitl y Band neu Artist Newydd Gorau, a Rhi Jorj ddaeth i'r brig yn y bleidlais am y Record Fer Orau am ei EP 'Amser'.
Roedd yn noson arwyddocaol i'r cerddor Dafydd Owain wrth iddo gipio'r wobr am y Record Hir Orau am ei ail albwm unigol, Ymarfer Byw.
Pleidlais y cyhoedd sy'n dewis enillwyr deg o gategorïau'r gwobrau, ac yn un achos, medd y trefnwyr, bu'n "amhosib gwahanu Bwncath a Pys Melyn yng nghategori'r 'Band Gorau' gan olygu bod y ddau fand o'r gogledd yn rhannu'r wobr".

Rose Datta enillodd gwobr'Seren y Sin
Enillodd Rose Datta wobr Seren y Sin. Hi yw prif ganwr y band Taran ac enillydd cyntaf cyfres Y Llais ar S4C.
Dau gategori sy'n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar, sef Gwobr 2025 a aeth i'r cynhyrchydd Don Leisure.
Fe gafodd y Wobr Cyfraniad Arbennig ei rhoi i'r rapiwr a bîtbocsiwr, Mr Phormula, neu Ed Holden.

Ed Holden, sy'n perfformio dan yr enw Mr Phormula, wnaeth gipio'r wobr am gyfraniad arbennig i'r byd cerddoriaeth
Enwebiadau Gwobrau'r Selar 2025
Y Gȃn Orau
ENILLYDD: Disgyn - Buddug
Leo – Dafydd Owain
Boys Will Be Boys – Dros Dro
Gwaith Celf Gorau
ENILLYDD: Adra - Mynadd
Ymarfer Byw - Dafydd Owain
Pydru yn yr Haul - Cyn Cwsg
Artist Unigol Gorau
ENILLYDD: Buddug
Alis Glyn
Dafydd Owain
Band neu Artist Newydd Gorau
ENILLYDD: Martha Elen
Blêr
Hafna
Band Gorau
ENILLWYR: Pys Melyn a Bwncath
Ciwb
Digwyddiad Byw Gorau
ENILLYDD: Tafwyl
Sesiwn Fawr Dolgellau
Maes B
Seren y Sin
ENILLYDD: Rose Datta
Ani Glass
Carwyn Williams
Fideo Cerddoriaeth Gorau
ENILLYDD: Disgyn - Buddug
Syched Cas - Dewin
Bythwyrdd - TewTewTennau
Record Fer Orau
ENILLYDD: Amser - Rhi Jorj
Mynd a'r Tŷ Bach am Dro - Cowbois Rhos Botwnnog
Rhydd - Betsan
Record Hir Orau
ENILLYDD: Ymarfer Byw - Dafydd Owain
Er Gwaetha' Pob Dim - Yr Anghysur
Ysgafn - Rhi Jorj
Gwobr 2025
ENILLYDD: Don Leisure
Gwobr Cyfraniad Arbennig
Mr Phormula, Ed Holden
Gwobrau'r Selar 'angen bod yn uchelgeisiol' i ddenu pobl ifanc
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Roedd y digwyddiad yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef lleoliad Gwobrau'r Selar rhwng 2015 a 2020.
"Roedd hi'n grêt i fod nôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni, ac roedd hi'n noson ardderchog" meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
"Pleidlais gyhoeddus sy'n dewis enillwyr y mwyafrif o'r categoriau wrth gwrs, felly mae'r rhestr enillwyr yn adlewychiad o'r hyn mae'r cyhoedd, y bobl sy'n mynd i'r gigs ac yn prynu'r gerddoriaeth, yn ei werthfawrogi.
"Er bod Buddug wedi cael noson ardderchog eto'n cipio tair gwobr, roedd tipyn o amrywiaeth ymysg yr enillwyr eraill ac mae hynny'n adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd y sin ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Mr Schiavone "yn bersonol, roedd yn braf iawn gallu rhoi'r wobr Cyfraniad Arbennig i Ed Holden, sy'n berson a cherddor dwi'n ei edmygu'n fawr, ac sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy dros y chwarter canrif diwethaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.