Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer yn ennill Cân i Gymru 2026

Cani Gymru 2026Ffynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Enillodd 'Y Gân' gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer wobr Cân i Gymru 2026 ar S4C nos Sadwrn, gyda'r gantores Sara Owen yn ei pherfformio.

Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd oedd yn ail gyda'r gân 'Y Gwanwyn Bach', tra mai Rhodri Lloyd Evans oedd yn drydydd gyda 'Storm Heno'.

Derbyniodd yr enillwyr dlws Cân i Gymru a gwobr ariannol o £5,000, tra bo'r ail safle yn derbyn £3,000 a'r trydydd safle yn cael £2,000.

Cafodd y gystadleuaeth ei ddarlledu'n fyw o Faes Sioe Môn, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn cyflwyno a phleidlais gyhoeddus gan wylwyr Cân i Gymru.

Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn GomerFfynhonnell y llun, S4C

Fe gollodd Emlyn Gomer dri ffrind yn sydyn, ac fe ddywedodd bod y profiad hwn yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau'r gân.

Dywedodd Geth Tomos: "Fel cerddor o Ynys Môn, mae hwn yn golygu'r byd i fi.

"Diolch yn fawr i'r ddau yma, diolch i'r holl deulu a diolch i Sara am ganu hi mor wych."

Wrth siarad ar raglen Ffion Emyr ar Radio Cymru ar ôl ennill nos Sadwrn, dywedodd Geth Tomos: "Dwi 'di gigio ar draws y wlad dros y blynyddoedd ac wedi byw dramor, ond mae gwneud hyn yn Ynys Môn wedi bod yn sbesial iawn.

"'Da ni'n tri mor hapus efo'r gefnogaeth, y canlyniad ac 'Y Gân' - 'da ni mor hapus efo be' 'da ni 'di neud yn y diwedd.

"Dwi'n meddwl ein bod ni jest wedi creu rhywbeth sbesial i bobl neith aros yn eu calonnau nhw am byth."

O'r ceisiadau, roedd panel o arbenigwyr wedi dewis wyth o'u ffefrynnau i gael eu perfformio ar y noson.

Ar y panel eleni roedd Osian Huw Williams prif leisydd y band Candelas, Barry 'archie' Jones o'r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a'r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.

Straeon perthnasol