Dirwy o hyd at £150 i yrwyr sydd ddim yn diffodd injan car

- Cyhoeddwyd
Gallai gyrwyr sy'n gadael injan cerbyd ymlaen tra eu bod wedi parcio wynebu dirwyon o hyd at £150, ar ôl pleidlais yn y Senedd.
Mae dirwy o £20 eisoes yn bosibl am wneud hyn ar ochr y ffordd, ond bydd cynghorau rŵan yn cael pwerau i osod dirwyon rhwng £75 a £150.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn lleihau llygredd niweidiol ac yn amddiffyn iechyd plant.
Gwrthododd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, honiadau gan y Ceidwadwyr a Reform UK bod y dirwyon yn "wrth-fodurwyr".

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod cymryd y camau "er budd iechyd y cyhoedd"
Yn y Senedd dywedodd Mr Irranca-Davies bod y dirwyon er budd iechyd, plant a phobl fregus.
"Mae'r dystiolaeth yn gwbl glir bod llygredd aer sy'n gysylltiedig â thraffig yn gysylltiedig â nifer o effeithiau iechyd."
Ychwanegodd fod cymryd camau yn erbyn y weithred o adael injan cerbyd ymlaen tra wedi parcio, "er budd iechyd y cyhoedd" a bod yr achos yn un cryf.
Bydd y pres sy'n cael ei gasglu yn gorfod cael ei ddefnyddio ar heddlua'r dirwyon, gwella ansawdd aer a lleihau cysylltiad ag allyriadau traffig.
Nid ydy'r ddirwy o £20 wedi newid ers cael ei chyflwyno yn 2003.
Dirwy yn 'ormodol ac anghyfiawn'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am ddod â'r dirwyon yn agosach at y rhai am droseddau amgylcheddol eraill a "rhoi offeryn mwy effeithiol i awdurdodau lleol" allu atal pobl.
Ond, mae dirwyon uwch yn "anfon neges glir iawn mai targed hawdd i'r llywodraeth ydy gyrwyr", meddai'r AS Ceidwadol Sam Rowlands.
Dywedodd AS Reform, James Evans, fod ei blaid hefyd yn gwrthwynebu'r cynnydd mewn cosbau, gan ei alw'n "ormodol ac anghyfiawn".
Yn ôl yr AS Llafur, Jenny Rathbone, mae hi wedi "gofyn yn gwrtais" i bobl ddiffodd eu hinjan, ond bod rhai'n troi'n "ddifrïol" ac yn gwrthod.
"Felly £150 ydy'r isafswm yn fy marn a ddylai gael ei dalu pryd mae rhywun yn gwrthod diffodd a ddim yn deall bod hyn yn broblem iechyd cyhoeddus mawr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.