Dau yn pledio'n euog i gynnau tân wnaeth ddinistrio tŷ

Tân Glynrhedynog
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd gwrandawiad blaenorol fod gwerth £650,000 o ddifrod wedi ei achosi yn y tân

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i gynnau tân a ddinistriodd dŷ yn Rhondda Cynon Taf yr haf diwethaf.

Cafodd pum eiddo eu heffeithio a bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi wedi'r tân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog yn oriau mân 28 Gorffennaf, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Plediodd Connor Pitt, 23, o Weston-super-Mare yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth i gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Fe wnaeth Lewis Manito bledio'n euog i losgi bwriadol a bod yn ddi-hid o ran a oedd bywyd yn cael ei beryglu, a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Auryn Guster, 19, ac Alfie Wheeler, 18 - hefyd o Weston-super-Mare - wedi cyfaddef yn flaenorol i gyhuddiad o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig