Jade Jones: O goncro'r byd taekwondo i wynebu ei gornest focsio gyntaf

Enillodd Jade Jones fedal aur taekwondo yn ei hymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012
- Cyhoeddwyd
Wrth ffarwelio â champ oedd yn rhan o'i bywyd ers yn ifanc roedd Jade Jones mewn sefyllfa berffaith i ymddeol fel un o'r goreuon erioed yn y byd taekwondo.
Ond nid dewis yr opsiwn hawdd yw natur y ferch o'r Fflint – a gadarnhaodd y byddai'n dilyn gyrfa bocsio ar ôl rhoi'r gorau i taekwondo lai na blwyddyn ar ôl colli yn y rownd gyntaf yng Ngemau Olympaidd 2024.
"Roedd yn anodd... a byddaf yn ddiolchgar i'r gamp am byth," meddai Jones, 32, wrth Chwaraeon BBC Cymru.
Ond ar ôl i'r Gemau Olympaidd ddod i ben "roedd angen i mi ddechrau o'r newydd".
"Byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi ymddeol ac wedi bod yn hapus, ond mae gen i'r tân yn fy mol o hyd ac rwy'n ysu am yr her."
Mi fydd hi'n wynebu Egypt Criss - merch y sêr hip-hop Anthony 'Treach' Criss o Naughty by Nature a Sandra 'Pepa' Denton o Salt-N-Pepa - yn ei gornest focsio gyntaf yn Derby ar 7 Mawrth.
'Pawb yn edrych arnai fel bo' fi'n wallgof'
Enillodd Jones fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain ac eto yn Rio de Janeiro bedair blynedd yn ddiweddarach.
Ond ar ôl cyrraedd uchafbwynt y gamp, mae Jones bellach yn bwriadu ceisio cyrraedd y brig mewn disgyblaeth hollol newydd.
Mae wedi disgrifio ei gornest gyntaf fel un "wallgof".
Ar ôl hyfforddi am ychydig dros flwyddyn, daeth Jones yn ymwybodol yn gyflym o natur anfaddeugar y gamp.
"Rwy'n credu mai un o'r heriau mwyaf dyw pobl ddim yn eu sylweddoli yw pa mor anodd yw mynd o fod ar frig un gamp i fod ar waelod camp arall," eglurodd Jones.
Mae'n cofio cerdded mewn i'r gampfa focsio am y tro cyntaf a hithau erioed wedi dyrnu neb o'r blaen.
"'Nes i ddweud fy mod i am fod yn focsiwr a dechreuodd pawb chwerthin ac edrych arnai fel bo' fi'n wallgof."

Mae gan hyfforddwr Jade Jones, y cyn-focsiwr proffesiynol Stephen 'Swifty' Smith, lu o brofiad ar lefel uchaf y gamp
Gan hyfforddi dan arweiniad y cyn-focsiwr proffesiynol Stephen 'Swifty' Smith yng nghampfa eiconig 4 Corners yn Lerpwl, mae Jade Jones wedi datblygu'n sylweddol cyn ei gornest focsio gyntaf.
"Fesul tipyn, mae'r hyfforddwyr wedi gweld pa mor gyflym dwi wedi gwella," meddai.
"Dwi wedi bod yn gweithio'n galed - mae'n gyfnod byr i geisio dysgu camp hollol newydd, ond dwi'n dysgu'n gyflym iawn ac yn gyffrous i weld y ffyrdd dwi wedi gwella a sut mae'r sgiliau newydd yn mynd i weithio."
O'r pwyso cyn y frwydr i'r daith gerdded cyn yr ornest, mae Jones wedi paratoi'n drylwyr ond mae'n ceisio mwynhau bob eiliad.
Jade Jones yn ymddeol o Taekwondo i ddilyn gyrfa mewn bocsio
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2025
Y bocsiwr Lauren Price yn Bencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2025
Cafodd Jones ei hysbrydoli gan bencampwraig bocsio unedig y byd, Lauren Price a chwaraeodd bêl-droed i Gymru - roedd hi'n gic-focsiwr ac wedi cystadlu yn taekwondo cyn symud draw i'r byd bocsio.
Mae'n edrych ymlaen, meddai, i gael cefnogaeth ei ffrindiau a'i theulu yno - dan yr enw 'Tîm Gwallgof'.
Pwysleisiodd hefyd y bydd ei thaid, Martin Foulkes, a fu farw'n ddiweddar yno gyda hi hefyd bob cam o'r ffordd.
Mr Foulkes aeth â Jade Jones i'w dosbarth taekwondo cyntaf erioed pan oedd yn ei harddegau.
"Fe oedd wedi cyflwyno'r gamp i fi ac wedi gwthio fi i ymuno," meddai Jade.
"Mae ei enw ar fy siorts, a byddaf yn gwneud fy nhaid yn falch.
"Dwi yno i'w gynrychioli," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.