Llyncdwll mawr yn cau rhan o Lwybr Arfordir Cymru

Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru wedi cwympo oherwydd llyncdwll
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru wedi cau ar ôl i lwybr cerdded pren ddisgyn i mewn i lyncdwll mawr.
Mae'r llyncdwll wedi ymddangos yn ardal Trefgraig Plas a Bodferin yn Llangwnnadl, Gwynedd ac mae'r cyngor yn gofyn i'r cyhoedd "gadw draw o'r rhan yma a pheidio cerdded heibio o dan unrhyw amgylchiadau".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y bydd swyddogion yn asesu'r safle yn y dyddiau nesaf ac y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu cyn gynted â phosib.
Mae swyddogion Llwybr Arfordir Cymru wedi dweud y bydd manylion am ddargyfeiriad dros dro yn cael eu rhoi ar eu gwefan "unwaith y bydd trefniadau ar waith".

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cyhoeddus 870 milltir o hyd sy'n rhedeg o amgylch arfordir Gymru gyfan.
Gan ddechrau ger Caer a gorffen yng Nghas-gwent, mae'r llwybr wedi'i rannu i sawl adran, pob un fel arfer yn cymryd tua wythnos i'w gerdded.

Mae disgwyl y bydd llwybr dros dro ar gael yn yr wythnosau nesaf
Dywedodd Rhys Roberts, swyddog Llwybr Arfordir Cymru yng Nghyngor Gwynedd, bod angen "datrysiad tymor hir" ar ôl i'r llwybr gael ei ddargyfeirio am y tro.
"Mae trafodaethau yn parhau gyda'r tirfeddiannwr ac rydym yn hyderus y gallwn ddargyfeirio'r llwybr i fynd o amgylch y llyncdwll yn y tymor byr.
"Ond mae angen datrysiad tymor hir yma oherwydd bod 'na lithriadau wedi digwydd ar y lleoliad yn y gorffennol, ond dim i'r radd hon."
Ychwanegodd bod disgwyl y bydd llwybr dros dro ar gael yn yr wythnosau nesaf, ac yna datrysiad tymor hir yn ystod y gwanwyn neu'r haf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.