Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban yn trechu Cymru

Roedd siom i Gymru wrth golli yn ystod munudau ola'r gêm
- Cyhoeddwyd
Colli 23-26 oedd hanes Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, wrth i'r ymwelwyr frwydro yn ôl yn ystod yr ail hanner i dorri calonnau'r tîm cartref.
Roedd dechrau positif a llawn hyder i'r gêm yn Stadiwm Principality, gyda phrop Cymru Rhys Carre yn sgorio cais gynta'r gêm i roi Cymru ar y blaen 7-0 ar ôl naw munud.
Cic gosb sydyn Dewi Lake gychwynnodd y symudiad, arweiniodd at bas gyflym, i Carre blymio dros y llinell gais i ddod â'r dorf at eu traed.
Ond daeth yr Alban yn ôl i mewn i'r gêm wrth i'r asgellwr Kyle Steyn sgorio cais i wneud y sgôr yn 7-5.
Er bod Cymru i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn i'r canolwr Joe Hawkins ar ôl 18 munud, fe lwyddodd y tîm cartref i ymestyn y bwlch rhwng y ddau dîm i 14-5 wedi i bas dda gan Sam Costelow ryddhau'r asgellwr Josh Adams i sgorio ail gais.
Gyda chic gosb gan Sam Costelow yn ymestyn y fantais ymhellach, roedd Cymru'n edrych yn dîm cryfach na'u perfformiadau diweddar, gyda'r sgôr ar yr egwyl yn 17-5.

Yr asgellwr Josh Adams yn sgorio ail gais Cymru
Roedd Cymru yn edrych yn hyderus, ac ar y blaen ar yr egwyl am y tro cyntaf o dan yr hyfforddwr Steve Tandy.
Fe wnaeth cic gosb arall gan Sam Castelow roi Cymru ymhellach ar y blaen o 20-5 ar gychwyn yr ail hanner.
Ond wedyn daeth cais gan yr Alban wrth i Finn Russell wibio dros y llinell gais i ddod â'r sgôr yn 20-12 yn dilyn y trosiad llwyddiannus.
Fe welodd cic gosb gan Jared Evans Cymru yn mynd 23-12 ar y blaen, ond yn syth o'r gic i ailgychwyn daeth cais sydyn i roi yr Alban yn ôl yn y gêm, wrth i Darcy Graham sgorio, ac yna y trosiad gan Russell yn gwneud y sgôr yn 23-19
Er bod Cymru wedi arwain ers 10 munud cynta'r gêm, yn ystod y chwe munud olaf aeth yr Alban ar y blaen am y tro cyntaf ar ôl cais gan George Turner a throsiad llwyddiannus arall gan Russell.

Sam Costelow yn rhoi Cymru ar y blaen ar gychwyn yr ail hanner
Roedd siom i Gymru felly wrth i'r sgôr droi yn 23-26, ac er gwaetha'r ymdrechion, dyma oedd y sgôr terfynol.
Dyma bedwaredd fuddugoliaeth yr Alban yn olynol yn erbyn Cymru, a hynny am y tro cyntaf ers 99 mlynedd.
Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon nesaf yn Nulyn, nos Wener 6 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror

- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd7 Chwefror
