Apêl wedi 'ymgais i gipio' menyw ifanc yng Nghaerdydd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ynghylch digwyddiad yng nghyffordd Clos Nant Mwlan a Heol Pontprennau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi'r hyn y mae'r heddlu'n ei ddisgrifio fel ymgais i gipio menyw 18 oed yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd y trosedd honedig yn ardal Pontrennau'r ddinas tua 18:30 ddydd Sadwrn 28 Chwefror.
Mae dyn lleol 33 oed yn y ddalfa wedi iddo gael ei arestio o fewn oriau o'r digwyddiad.
Roedd y fenyw wedi dod oddi ar fws a'r gred yw bod rhywun wedi ei dilyn ar droed cyn yr ymgais i'w chipio ar gyffordd Clos Nant Mwlan a Heol Pontprennau.
Mae ditectifs eisiau clywed gan fenyw oedd yn gyrru car du ac a welodd y digwyddiad gan stopio i ymyrryd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Laura Parsons: "Mae digwyddiadau fel yn hyn yn rhai hynod o brin a hoffwn roi sicrwydd i bobl ein bod wedi arestio rhywun dan amheuaeth sydd yn nalfa'r heddlu.
"Hoffwn i ganmol y fenyw a stopiodd ei char i ymyrryd. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwybod pwy yw hi felly mae apêl iddi gysylltu â ni."