Sesiynau Jarman i gofio 'un o'n artistiaid mwyaf dylanwadol'

Bu farw Geraint Jarman yn 74 oed ym mis Mawrth 2025
- Cyhoeddwyd
A hithau'n flwyddyn ers colli un o fawrion byd cerddoriaeth Cymru, Geraint Jarman, mae Radio Cymru'n lansio cynllun Sesiynau Jarman i gofio amdano ac i barhau â'r gwaith o gefnogi artistiaid a cherddoriaeth newydd oedd mor bwysig iddo.
Bu farw'r canwr, y bardd a'r cynhyrchydd teledu yn 74 oed ym mis Mawrth 2025. Yn y teyrngedau iddo ar y pryd, cafodd ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".
Ar nos Lun 2 Mawrth cyhoeddodd Rhys Mwyn a Lisa Gwilym ar raglen Dathlu Jarman ar Radio Cymru y bydd Sesiynau Jarman yn rhoi cyfle i chwech o artistiaid i fynd i'r stiwdio i recordio dwy gân – un gân wreiddiol ac un "cyfyr" o waith Jarman.
Dywedodd Lisa: "Dwi dal methu coelio bod o 'di mynd. Mae'n un o'r bobl 'na sy'n mynd i fod yn ein calonnau ni am byth.
"Mae gen i atgofion mor arbennig o sgwrsio efo Geraint ar hyd y blynyddoedd. Roedd cael ei holi bob tro'n bleser, a finne mor falch o'i gael ar fy rhaglen pan oedd ganddo albym newydd i'w chwarae am y tro cyntaf.
"Mae'n chwerw-felys felly cael yr anrhydedd o gyhoeddi Sesiynau Jarman, fydd yn ffordd gerddorol a chreadigol o gofio am un o'n artistiaid mwyaf dylanwadol. Mi oedd o'n arwr i gymaint ohonom."
Yr artistiaid cyntaf i recordio sesiwn fydd Gareth Bonello a Taran – Gareth fel ffrind agos i Geraint, a Taran fel band ifanc o Gaerdydd, y ddinas oedd yn ysbrydoliaeth i'r cerddor dros y blynyddoedd.

Rose Datta o'r grŵp Taran
Bydd y sesiynau cyntaf yn recordio cyfyrs o ganeuon oddi ar yr albwm Gobaith Mawr y Ganrif, sy'n cael ei ail ryddhau eleni hanner can mlynedd ers ei gyhoeddiad cyntaf.
Dywedodd Rhys Mwyn fod Jarman wedi cael dylanwad mawr arno: "Newidiodd y trac 'Rocyrs' gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr fy mywyd.
"Gwesty Cymru oedd yr albym ac wrth wrando drwy'r LP ar bnawniau Sadwrn oer a gwlyb yn ystod fy ieuenctid roedd clywed trac reggae fel Rocyrs yn dod â vibes Steel Pulse ac Aswad i'r ystafell fyw yn Llanfair Caereinion.
"Fuodd pethau ddim ru'n fath wedyn. Gwelais Jarman yn '79 yn Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau - un o'r gigs gorau erioed. Hyd at heddiw gallwn gofio yn union beth oedd y band yn wisgo."

Mi fydd Gareth Bonello yn un o'r artistiaid cyntaf i recordio sesiwn
Bydd y sesiwn cyntaf yn cael ei chwarae ar Radio Cymru yn ystod y gwanwyn ac mae Dafydd Meredydd, golygydd Radio Cymru, yn talu teyrnged i ddylanwad Jarman ar yr orsaf: "Roedd cysylltiad Geraint â Radio Cymru yn ymestyn yn ôl dros ddegawdau, yn ei rôl fel cerddor, a chyflwynydd.
"Gyda'i albyms cynnar yn diffinio sŵn rhai o raglenni'r Radio Cymru ifanc yng nghyfnod lansio'r orsaf yn 1977, mae'i ganeuon yn parhau i fod yn rhan bwysig o sŵn y gwasanaeth hyd heddiw.
"Bydd Sesiynau Jarman yn ffordd addas o goffáu Geraint, gan roi llwyfan hefyd i artistiaid newydd - rhywbeth oedd yn agos iawn at ei galon drwy'i waith gyda Fideo 9 a'i gydweithio eang ag artistiaid o bob cefndir. Mae'n fraint cael cydweithio â theulu Geraint ar y prosiect arbennig yma."

Un arall sy'n edrych y mlaen i glywed be ddaw o'r brosiect yw prif weithredwr cwmni Sain, Kev Tame: "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed beth ddaw o "Sesiynau Jarman" Radio Cymru, ac mae'n bleser gweld artistiaid yn parhau i ddathlu cerddoriaeth a dylanwad enfawr Geraint Jarman.
"Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Sain yn ailgyhoeddi albwm unigol cyntaf Geraint Jarman, Gobaith Mawr y Ganrif, ar finyl blwyddyn yma i nodi 50 mlynedd ers ei ryddhau - record ac artist sy'n parhau i fod yr un mor arwyddocaol a pherthnasol heddiw ag yr oedd hanner canrif yn ôl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2025
