Dedfrydu'r troseddwr rhyw Llion Evans a gafodd ei ddal gan heddlu cudd

- Cyhoeddwyd
Mae troseddwr rhyw - a gafodd ei ddal gan swyddog heddlu cudd yr oedd yn credu oedd yn ferch 12 oed - wedi cael ei ddedfrydu.
Fe gyfaddefodd Llion Evans, 41, o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg, iddo geisio cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn, ar ôl iddo gysylltu â swyddog heddlu oedd yn esgus bod yn ferch o'r enw Seren.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddo ddechrau cyfathrebu â'r swyddog cudd gan ddefnyddio'r ap Kik Messenger.
Defnyddiodd Snapchat hefyd i sgwrsio â 'Seren' a rhannu delweddau anweddus o gam-drin plant gyda defnyddwyr Kik eraill.
Cafodd Evans ddedfryd 20 mis, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd.
Cannoedd o luniau anweddus
Clywodd y llys fod y sgyrsiau wedi dechrau ym mis Gorffennaf 2023 pan gyflwynodd y swyddog ei hun fel Seren o Gasnewydd.
Anfonodd Evans neges ati yn dweud: "Dwi'n gwirio i weld a wyt ti'n dweud dy fod ti'n 12 oed?"
Yna dywedodd wrth 'Seren': "Dwi yma i gael 'naughty chat'."
Fe gymerodd yr heddlu ei ffôn symudol ac ar ôl i swyddogion gael mynediad at ffolder ddiogel fe ddaethon nhw o hyd i 75 o ddelweddau Categori A, 87 o rai Categori B a 204 o rai Categori C yn ogystal â dwy ddelwedd waharddedig.
Fe rannodd un ddelwedd Categori A ac un ddelwedd Categori B gyda defnyddwyr eraill Kik Messenger.
'Difaru'n fawr'
Dywedodd Nicola Powell, ar ran Evans, fod ei chleient yn difaru ei weithredoedd yn fawr ac yn "ddiolchgar" bod yr heddlu wedi'i ddal.
Ychwanegodd bod Evans, yn ystod ei sgyrsiau cynnar gyda 'Seren', wedi dweud: "Os wyt ti wir yn 12 oed, allwn ni ddim siarad."
Anfonodd neges at 'Seren' hefyd yn dweud wrthi nad oedd Kik yn ap diogel i blant 12 oed.
Ers hynny, mae Evans, a raddiodd mewn ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi mynychu cyrsiau er mwyn mynd i'r afael â'i droseddu gyda'r Lucy Faithfull Foundation.
Mae wedi cwblhau cwrs o sesiynau therapi seicolegol ac wedi gosod meddalwedd ar ei ddyfeisiau sy'n gwirio ei ddefnydd o'r we yn annibynnol.
'Dim modd mesur y niwed'
Disgrifiodd y Barnwr Vanessa Francis gweithredoedd Evans fel rhai "hollol warthus", gan ddweud nad oes modd mesur y niwed y mae gwneud a dosbarthu delweddau o gam-drin plant yn ei achosi.
Ychwanegodd bod Evans wedi dangos ei fod yn gallu adfer ei ymddygiad ac fe ganmolodd ei ymdrechion i atal troseddu eto.
Aeth ymlaen i ddedfrydu Evans i gyfanswm o 20 mis, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Cafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol ac mi fydd yn droseddwr rhyw cofrestredig am 10 mlynedd.
Bydd hefyd yn destun Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu a fydd yn cael ei oruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf.
Bydd yn rhaid iddo hefyd gyflawni 80 awr o waith cymunedol dan oruchwyliaeth ac yn ddi-dâl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.