Prisiau tocynnau trên Trafnidiaeth Cymru i gael eu rhewi am flwyddyn

Tren Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd prisiau tocynnau trên Trafnidiaeth Cymru yn cael eu rhewi am flwyddyn o 1 Mawrth, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y byddai cadw prisiau tocynnau trên ar eu lefel bresennol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhoi "rhoi sicrwydd i deithwyr ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw."

Mae'r cam hwn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd prisiau tocynnau trên yn Lloegr yn cael eu rhewi am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd.

Dywedodd Plaid Cymru fod angen "dadwneud degawdau o dan-ariannu'r rheilffyrdd", tra bod Reform UK wedi dweud bod Llafur wedi cael "cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol", ond eu bod "wedi methu", a dywedodd y Ceidwadwyr nad yw'r penderfyniad yn "cuddio'r darlun ehangach".

Gareth Williams

Croesawodd rhai teithwyr yng ngorsaf Bangor y penderfyniad fore Sadwrn.

Dywedodd Gareth Williams: "Dwi'm yn dreifio. Dod i fama 'dwi, a neidio ar y trên a mynd i ble bynnag dwi isio. Dwi reit hapus efo'r prisiau."

Joshua Cooper

Ond doedd Joshua Cooper o Gaerdydd ddim yn teimlo'n sicr a fyddai'r penderfyniad yn gwneud gwahaniaeth, gan ddweud fod tocynnau "dal yn ddrud, felly dwi ddim yn credu bod hyn yn mynd i gael llawer o effaith.

"Mae'n rhaid dod a'r pris lawr ac wedyn efallai bydd pobl yn mynd ar y trên."

'Yn fwy deniadol ac yn rhatach'

Bydd y rhewi prisiau yn berthnasol i docynnau sengl ymlaen llaw, tocynnau dychwelyd a gwasanaeth newydd "tapio i mewn a thapio allan", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwasanaeth "tapio i mewn a thapio allan" yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd mewn rhannau o dde Cymru a dywedodd y llywodraeth ei bod yn bwriadu ei chyflwyno mewn ardaloedd eraill.

Dywedodd Eluned Morgan, "Mae mwy o bobl yn dewis teithio ar y trên yng Nghymru, mae gwasanaethau'n datblygu'n gyflymach ac maen nhw'n fwy dibynadwy."

Ychwanegodd y byddai'r rhewi prisiau yn gwneud teithio ar y trên yn "fwy deniadol ac yn rhatach".

Dywedodd Plaid Cymru bod angen "dechrau'r broses o ddadwneud degawdau o dan-ariannu cyllid rheilffyrdd gan Lywodraeth San Steffan" i wneud newid "pendant" a "datganoli seilwaith rheilffyrdd - rhywbeth y mae Llafur wedi methu â gwneud."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y byddai'r blaid yn "brwydro dros yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, fel y gallwn fuddsoddi'n iawn yn ein seilwaith a chysylltu cymunedau Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Wales: "Mae Llafur wedi cael cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol yng Nghymru.

"Maen nhw wedi methu â gwneud hynny, a nawr maen nhw'n cael eu cosbi'n briodol am hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol "unrhyw gymorth gyda chostau byw yn gadarnhaol" ond nad yw "rhewi prisiau tocynnau am flwyddyn yn cuddio'r darlun ehangach."

Ychwanegodd fod Llafur wedi addo "newid sylweddol yng nghyllid rheilffyrdd Cymru", ond bod y swm presennol llai na hanner yr hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.