Cymru'n gobeithio creu mwy o hanes a chyrraedd Cwpan y Byd

Ar ôl chwarae yn Euro 2025 mi fydd Cymru'n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027
- Cyhoeddwyd
Mi oedd Euro 2025 yn brofiad bythgofiadwy i chwaraewyr Cymru.
Cyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed a chwarae'n erbyn rhai o dimau gorau'r byd.
Ac ar ôl cael blas o wneud hynny - maen nhw'n awyddus am fwy.
Felly ydi'r criw yma o chwaraewyr yn gallu creu mwy o hanes a chyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027?
Y llwybr i Frasil

Mi fydd Cymru'n gobeithio gorffen ar frig eu grŵp er mwyn cael llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail-gyfle
Mi fydd Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ym Mrasil. Ond tydi'r llwybr i gyrraedd yno ddim yn un hawdd.
Mae fformat y rowndiau rhagbrofol yn debyg iawn i Gynghrair y Cenhedloedd.
Mae Cymru yn yr ail haen - yn Adran B - felly tydyn nhw ddim yn gallu cyrraedd y rowndiau rhagbrofol yn awtomatig. Mi fydden nhw'n dibynnu ar y gemau ail-gyfle.
Maen nhw yn yr un grŵp a Czechia, Montenegro ac Albania.

Mae Czechia un safle'n uwch na Chymru ar restr detholion y byd
Gorffen ar frig y grŵp - ac mi fydd eu llwybr nhw yn y gemau ail-gyfle yn fwy ffafriol.
Ond haws dweud na gwneud, yn enwedig gan gofio fod Czechia yn uwch na Chymru ar restr detholion y byd.
Er nad yw Czechia erioed wedi chwarae'n un o'r cystadlaethau mawr mi oedden nhw'n agos iawn at gyrraedd Euro 2025, gan golli o un gôl yn erbyn Portiwgal yn ffeinal y gemau ail-gyfle.
Maen nhw'n dîm sydd gwella lot dros y blynyddoedd diwethaf, ac mi fydd yn rhaid bod yn wyliadwrus o'u capten Klára Cahynová sy'n chwarae i Real Sociedad yn Sbaen.
Mae 'na lot yn y fantol felly yn y gêm ragbrofol gyntaf pan fydd Cymru oddi cartref yn Czechia.
Ymdopi heb Fishlock
Mi fydd hi'n olygfa ryfedd gweld Jess Fishlock yn sefyll ar ochr y cae yn Czechia yn ei rôl newydd fel hyfforddwr.
Yn cael ei chydnabod fel y chwaraewr gorau yn hanes y tîm - fe benderfynodd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl Euro 2025.
Ond mae hi nôl gyda'r garfan ar ôl i Rhian Wilkinson ei pherswadio i ymuno â'r tîm hyfforddi ar gyfer y gêm yn Czechia.
Tydan ni ddim yn gwybod eto a fydd y rôl yn datblygu i fod yn rhywbeth mwy parhaol - ond mae ei phresenoldeb yn siŵr o helpu paratoadau'r garfan.

Fe enillodd Jess Fishlock 166 cap dros Gymru gan sgorio 48 gôl
"I fod yn onest does 'na ddim lot o wahaniaeth rhwng cael Jess yn hyfforddwr yn hytrach na chwaraewr," yn ôl yr ymosodwr Carrie Jones.
"Pan oedd hi'n chwarae mi oedd hi'n arwain y ffordd ar y cae be' bynnag.
"Mae'n grêt ei chael hi yma yn ei rôl newydd."
Am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd mi fydd yn rhaid i Gymru ymdopi heb Fishlock ar y cae - felly sut fydd Rhian Wilkinson yn mynd ati i lenwi'r bwlch yna?
Y newyddion da ydi fod 'na berfformiadau addawol wedi bod gan Gymru yn dilyn ymddeoliad Fishlock.
Fe enillon nhw 3-2 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Y Swistir yn Sbaen nôl ym mis Rhagfyr, gyda Carrie Jones yn chwarae'n dda mewn safle fwy canolog, a Hannah Cain yn sgorio gôl wych.
Mae 'na dal lot o brofiad yn y tîm hefyd gyda chwaraewyr fel Angharad James, Sophie Ingle a Hayley Ladd i gyd wedi ennill dros 100 o gapiau.
Y genhedlaeth nesaf

Mae Mared Griffiths ar fenthyg gyda Sunderland o Manchester United
Ers Euro 2025 ac ymddeoliad Fishlock mae Rhian Wilkinson wedi defnyddio gemau cyfeillgar i roi cyfleoedd i chwaraewyr iau.
Un sydd wedu creu argraff fawr dros y misoedd diwethaf ydi Mared Griffiths o glwb Manchester United.
Yn 18 oed fe sgoriodd ei gôl rhyngwladol gyntaf yn erbyn Awstralia yng ngêm olaf Fishlock dros Gymru.
Mi oedd 'na berfformiad gwych arall yn erbyn Y Swistir ym mis Rhagfyr, a hi bellach sy'n gwisgo'r rhif 10 - sef hen grys Fishlock.

Chwaraewyr Cymru - gan gynnwys Jess Fishlock - yn llongyfarch Mared Griffiths ar ei gôl yn erbyn Awstralia
Er ei bod hi dal yn ifanc mae hi'n siŵr o chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch ragbrofol.
Mae hi newydd ymuno â Sunderland ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, a fe sgoriodd ei gôl gyntaf drostyn nhw mewn buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Durham wythnos diwethaf.
Mi fydd chwarae'n rheolaidd ar lefel clwb yn helpu ei datblygiad fel chwaraewr, ac y gobaith yw y bydd Cymru yn elwa o hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
