Adfer hen blasty cudd 'o bwys hanesyddol eithriadol'

Llun o weithiwr yn cloddio. Gellir gweld olion hen waliau o hen adeilad Plas Gunter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith wedi dechrau i adfer Plas Gunter ar stryd fawr Y Fenni

GanGarry Owen
Gohebydd arbennig BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith wedi cychwyn i adfer hen blasty cudd yn Sir Fynwy, sydd â hanes diddorol o gyfnod cythryblus y 17eg ganrif.

Mae gwirfoddolwyr yn bwriadu agor Plasty Plas Gunter yn y Fenni fel canolfan dreftadaeth arbennig i gofio hanes arbennig yr adeilad.

Dros y canrifoedd mae cyflwr yn adeilad wedi dirywio ers ei hadeiladu 400 mlynedd yn ôl.

Gyda help grantiau, gan gynnwys arian o'r loteri, mae Plas Gunter nawr yn cael ei drawsnewid er mwyn adrodd stori adeilad sy'n cael ei ddisgrifio fel "capsiwl o hanes sydd â rôl arwyddocaol ym mrwydrau gwleidyddol a chrefyddol yr 17eg ganrif".

Llun o wal wedi cael ei drin y tu fewn i'r plas
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr wedi cychwyn ar adfer y tu fewn i'r plas

Mae gan hen blasty Gunter ar stryd fawr y Fenni hanes eithriadol, ond ychydig iawn o bobl sy'n gwybod am ei fodolaeth gan ei fod ynghudd.

O'r tu fas, does dim cliwiau i arwyddocâd hanesyddol Plas Gunter, ac mae'r adeilad ynghlwm â straeon o'r 17eg ganrif oedd yn ymwneud â phabyddiaeth, erledigaeth a merthyru.

Un o drysorau'r plas yw'r capel Catholig cudd yn yr atig, sy'n un o'r enghreifftiau gorau ym Mhrydain o gapel fel hyn o'r cyfnod.

Yn y 1670au fe wnaeth y perchennog Thomas Gunter roi caniatâd i offeren Gatholig gael ei chynnal yn anghyfreithlon yn y capel.

Fe gafodd yr offeiriad, David Lewis ei arestio ar ôl gadael yr ystafell, a'i ddienyddio. Ef oedd y merthyr Catholig olaf yng Nghymru.

Llun o wal wedi ei rwygo gan ddatgelu panel o'r 17ganrif o'r capel cudd yn atig y plas.
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddio panel y capel cudd yn atig y plas - un o drysorau Plas Gunter

Dywedodd y cynghorydd Tudor Thomas fod y plas "o bwys hanesyddol eithriadol".

"Rwy'n credu fod Plas Gunter mor bwysig, yn enwedig nawr bod gwaith yn mynd 'mlaen i ddiogelu fe," meddai.

"Mae e'n mynd i greu diddordeb hanesyddol.

"Bydd plant yn gallu dod yma, a phobl o dros y byd i weld y plas a chlywed ei hanes ryfeddol.

"A fi'n credu bod mwy o storïau i ddod yn y plas yma sy' wedi bod ynghudd hyd yma."

Tudor Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plas "o bwys hanesyddol eithriadol", medd Tudor Thomas

Mae Phoebe yn byw yn y dref ac yn ddisgybl yn Ysgol Gwynllyw, ac yn dweud mai ychydig iawn mae pobl leol yn ei wybod am yr hanes.

"Dwi'n gwybod bach am yr hanes a dwi'n meddwl bod e yn stori cool," meddai.

"Bydden ni yn cerdded heibio cyn i'r gwaith ddechrau fan hyn heb wybod dim am y stori.

"Ond nawr rwy'n meddwl bod cadw hanes fel hyn yn bwysig.

"Does dim llawer o bethe hanesyddol yn cael ei rannu achos ma' pawb yn sgrolio ar eu ffonau nhw, ond nawr chi yn gallu dod i mewn a gweld hanes o flaen eich llygaid."

Phoebe yn gwenu ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phoebe yn credu bod cadw hanes yn bwysig

Mae Lowri hefyd yn byw yn Y Fenni ac yn ddisgybl yn Ysgol Gwynllyw. Pan welodd hi y capel am y tro cyntaf roedd hi wedi synnu.

"Fi jyst yn meddwl bod e mor anhygoel meddwl am yr holl bobl oesoedd yn ôl yn byw yma, a meddwl am yr hanes tu ôl y paent ar y waliau a'r holl bethe cyfrinachol oedd yn digwydd yn fan hyn," meddai.

Llun o'r hanesydd lleol Frank Olding
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr hanesydd lleol Frank Olding, roedd y Gymraeg yn bwysig ym Mhlas Gunter

Yn ogystal ag arwyddocâd hanesyddol a chrefyddol, mae'r plasty hefyd yn bwysig o ran yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

"Iaith Gatholigiaeth oedd y Gymraeg," yn ôl yr hanesydd lleol Frank Olding.

"Roedd y Catholigion yn gweld protestaniaeth fel rhywbeth estron oedd wedi dod o Loegr, felly pan bydden nhw'n heidio i Blas Gunter yn yr ail ganrif ar bymtheg i'r offeren, roedd y pregethu i gyd yn Gymraeg.

"Iaith Pabyddion y dref bryd hynny oedd y Gymraeg."

Er bod peth o hanes Plas Gunter yn hysbys, wrth i'r gwaith adnewyddu fynd yn ei flaen, mae'r stori yn dod yn gliriach am gefndir yr hen blasty ar y stryd fawr fu bron â syrthio yn angof.

Y gobaith yw y bydd y gwaith o adfer y plasty yn golygu bod yr hanes lliwgar a chyffrous, a'r straeon am gyfrinachau, erledigaeth a dirgelwch y gorffennol, yn cael eu cofio am byth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig