Y Seintiau Newydd yn bencampwyr ar y Cymru Premier eto eleni

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y gynghrair 18 o weithiau bellach
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill yr uwch gynghrair, y Cymru Premier, eto eleni.
Golygai hynny bod y clwb wedi ennill y gynghrair 18 o weithiau a thymor 2025/26 oedd y pumed tro yn olynol, yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Cei Connah, oedd yn ail.
Roedd Ben Wilson wedi rhoi'r Seintiau ar y blaen yng Nghei Connah yn hwyr yn y gêm, ond tarodd Cei Connah yn ôl trwy Harry Franklin i'w gwneud hi'n gyfartal.
Ond Y Seintiau gafodd y gair olaf wedi'i Danny Davies sgorio ar derfyn y gêm i ehangu'r record am y clwb gyda'r mwyaf o dlysau cynghrair.
Mae bwlch o 18 pwynt rhwng y ddau dîm bellach, sy'n golygu eu bod wedi ennill y bencampwriaeth yn fathemategol er bod gemau ar ôl i'w chwarae.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
