Annog ffermwyr i flaenoriaethu eu golwg gyda phrofion mewn mart

Mae optometrydd ar gael ym Mart Dolgellau ddydd Gwener i roi cyngor, a chyfeirio'r rhai sydd angen at wasanaethau eraill
- Cyhoeddwyd
Mae cyfle i ffermwyr gael profion llygaid am ddim wrth iddyn nhw ymweld â Mart Dolgellau ddydd Gwener, mewn ymgais i annog amaethwyr i flaenoriaethu eu golwg.
Bydd y profion ar gael ar ddiwrnod arwerthiant gwartheg - "cyfle perffaith i gael ffermwyr at ei gilydd", yn ôl rheolwr y mart Rhys Evans.
Dywedodd fod "natur gwaith ffarmwr yn golygu bod o'n anodd ffeindio amser i flaenoriaethu iechyd ac i fynd i apwyntiadau".
"Felly rydyn ni'n teimlo fel bod dyletswydd gyda ni i gynnig y cymorth yma," meddai.
Yn ôl data elusen yr RNIB, mae 112,000 o bobl yn, neu wedi, colli eu golwg yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r nifer ddyblu erbyn 2050.
'Bywyd ar y fferm yn heriol'
Dywedodd Huw Ifor Huws o'r RNIB fod yr elusen wedi targedu amaethwyr am ei bod hi'n bwysig dod â gwasanaethau i'r gymuned.
"Gyda gwaith ar y ffarm a phrysurdeb rhedeg busnes, mae'n anodd i ffermwyr i ffeindio'r amser i fynd mewn i'r dre'," meddai.
"Felly rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn gyfle i ddod ag arbenigwyr i'r ffermwyr."
Y bwriad yw dechrau'r gwasanaeth mewn martiau eraill ar draws Cymru, gyda'r RNIB yn dweud ei fod yn gam cadarnhaol tuag at wella iechyd ym myd amaeth.
"Rydyn ni'n gwybod bod bywyd ar y fferm yn heriol, ac weithiau'n beryglus, gydag oriau hir," meddai Mr Huws.
"Does dim llawer o amser ar gyfer yr archwiliadau iechyd hanfodol y dylai pobl eu cael.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd dod ag optometryddion i galon bywyd cymunedol gwledig yn annog ffermwyr yn Nolgellau a'r cyffiniau i flaenoriaethu iechyd a diogelwch eu llygaid."
'Colli golwg fel rhyw fath o alar'
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2025
'Diolch am driniaeth' tra gallai 80,000 fynd yn ddall
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2025
Bydd optometrydd ar gael ym Mart Dolgellau ddydd Gwener i roi cyngor ac i gyfeirio'r rhai sydd angen ail apwyntiad at wasanaethau eraill.
Dywedodd rheolwr y mart Rhys Evans bod ffermwyr wedi dweud wrtho eu bod nhw'n edrych ymlaen at gael eu gweld.
"Yn naturiol mae iechyd yn gallu bod ar waelod rhestr blaenoriaethau pan 'da ni'n brysur, felly gobeithio'n fawr fydd y digwyddiad yn un llwyddiannus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.