'Hunllef' criw o Wynedd sy'n sownd yn sgil gwrthdaro'r Dwyrain Canol

Criw GISDAFfynhonnell y llun, Llun cyfarnnydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw o elusen GISDA sydd allan yn India yn wynebu taith heriol adref

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymry sy'n sownd dramor wedi son am yr "hunllef" o geisio dychwelyd adref, wrth i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol arwain at ganslo hediadau.

Mae criw o elusen GISDA yng Ngwynedd yn wynebu taith tri diwrnod yn ôl o India oherwydd yr anghydfod.

Roedd disgwyl i'r criw, sydd allan yn India ar daith ddiwylliannol, ddychwelyd ddydd Llun.

Ond bu'n rhaid ail-gynllunio eu taith ar ôl i hediadau gael eu canslo a meysydd awyr gael eu cau.

Erbyn hyn mae disgwyl iddyn nhw adael Mumbai am 05:00 fore Iau, cyn dychwelyd i Fangor erbyn nos Sadwrn.

Mae Cymru Fyw eisoes wedi clywed am brofiadau pobl sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel.

Yn y cyfamser dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan mai ei "blaenoriaeth pennaf yw diogelwch y bobl sydd yng Nghymru a'r rheiny o Gymry sydd yn y rhanbarth".

Disgrifiad,

Mae'r grŵp yn wynebu taith hir adref oherwydd bod llawer o hediadau wedi eu canslo

Roedd "pawb yn edrych ymlaen" at y daith i India, meddai Sian Tomos, Prif Weithredwr GISDA, a'r criw "wedi cael wythnos wych yn ymweld â llefydd amrywiol o amgylch India a chyfleodd i wirfoddoli".

"Ond dydd Sul yn anffodus 'naeth ein taith adref cael ei ganslo a da ni just 'di bod yn trio meddwl am ffyrdd eraill o ddod adref.

"Mae wedi bod yn hunllef", meddai, gan nodi nad ydyn nhw wedi medru cael gafael ar y cwmni hedfan.

"Mae o wedi bod yn anodd yn ceisio chwilio am flights achos mae'r prisiau yn mynd fyny", ychwanegodd.

Un arall sydd allan yn India fel rhan o'r daith yw Alicia Lee Lomas, a dyma oedd ei thro cyntaf yn mynd dramor.

"Ro'n i'n poeni'n arw. Ond roedd cael y gweithwyr cymorth yma wir wedi helpu", meddai.

"Dwi wedi bod yn homesick, oherwydd bod fy merch adref."

Mae'r grŵp wedi bod i Delhi, Jaipur ac Agra yn ystod eu trip.

Er mwyn osgoi'r Dwyrain Canol, y bwriad bellach ydy hedfan o Mumbai i Lundain drwy Dar-es-Salam yn Tanzania, Johannesburg yn Ne Affrica, ac Addis Ababa yn Ethiopia.

Sian Tomos, Mirain Brady a Kaya Hughes, Prif Weithredwr a rheolwyr GISDA Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Tomos, Mirain Brady a Kaya Hughes o GISDA wedi bod ar y daith

Dywedodd un o reolwyr yr elusen, Kaya Hughes, fod y cwmni hedfan wedi dweud wryhyn nhw "efallai y bydd diweddariad ymhen wythnos".

Dywedodd Mirain Brady: "Fe wnaethon ni eu ffonio yn wreiddiol ar y nos Sul ac roedden nhw'n dweud nad oedd yr hediad wedi ei ganslo, ond roedd yn dangos ar y wefan ei fod wedi ei ganslo.

"Erbyn neithiwr wedyn, erbyn tua 02:00 y bore, erbyn i ni gael ein llety, ro'n nhw fwy neu lai yn dweud wrtho ni 'chi ben eich hunain'."

Yn ei datganiad diweddaraf ynghylch y sefyllfa, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod yn cael ei diweddaru ar y datblygiadau ac wedi cael ei "briffio yn uniongyrchol ar y sefyllfa gan uwch-swyddogion Swyddfa'r Cabinet y DU".

Ychwanegodd: "Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â phartneriaid rhyngwladol i alw am atal yr ymladd, dychwelyd i ddiplomyddiaeth a chydymffurfiaeth lawn â chyfraith ryngwladol."

Liz Saville-R

Ychwanegodd Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ei bod yn hynod bryderus o glywed bod pobl o'i phentref a'i hetholaeth ymhlith y 300,000 o ddinasyddion Prydain sydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd.

"Bydd yn rhaid i griw o elusen GISDA ddod adref via De Affrica - drwy Johannesburg ac wedyn Ethiopia.

"O'n nhw'n siomedig mewn sefyllfa bryderus, lle oedden nhw methu hedfan yn ôl dros y Dwyrain Canol, cyn lleied o gymorth maen nhw wedi ei gael."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig