Plismyn wedi rhannu sylwadau 'ffiaidd' a 'dirmygus' - gwrandawiad

Heddlu GwentFfynhonnell y llun, Getty
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth swyddogion o Heddlu Gwent wneud hwyl am ben bobl hoyw a thraws mewn termau hynod ddirmygus, mae gwrandawiad camymddwyn wedi clywed.

Roedd yna negeseuon sarhaus hefyd yn erbyn merched.

Fe wnaeth y panel benderfynu y byddai y plismyn James Heley a Simon Lewis wedi cael eu diswyddo pe na fyddent wedi ymddiswyddo ddiwedd wythnos ddiwethaf.

Mae'r honiadau yn ymwneud yn bennaf â negeseuon dau grŵp WhatsApp rhwng 2015 a 2019 - fe ddaeth y negeseuon i'r amlwg wedi marwolaeth heddwas Gwent, Ricky Jones, a fu farw drwy hunanladdiad yn 2020.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough o Heddlu Gwent fod y negeseuon testun gan y cyn-swyddogion yn "hollol warthus" ac "ni ddylai agweddau fel yna gael lle yn ein heddluoedd na'n cymdeithas".

'Sarhaus, difrifol ac amharchus'

Wrth agor y gwrandawiad, dywedodd y barnwr John-Paul White a oedd yn cynrychioli Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent wrth y panel, fod Y Cwnstabl James Heley wedi rhannu a derbyn negeseuon a oedd yn tanseilio menywod, yn gwneud hwyl am ben bobl hoyw a phobl thraws ac yn gwneud hwyl am ben pobl "oherwydd eu tras".

Clywodd y panel fod y negeseuon yn "sarhaus, difrifol ac amharchus".

Cafodd negeseuon o fewn dau grŵp WhatsApp o'r enw "Budapest" a "Team 17" eu cyflwyno gerbron y panel, yn ogystal â negeseuon y gwnaeth PC Heley yrru yn uniongyrchol at Ricky Jones.

Roedd y negeseuon yma yn cynnwys fideo o fenyw yn cael ei tharo yn ei hwyneb gan bidyn, fideo o'r cyn-brif weinidog, Theresa May yn perfformio 'gweithred rywiol' ar y cyn-ganghellor Phillip Hammond, a llun o ddyn gwyn a menyw wen yn dal babi du gyda'r geiriau "Mae'n rhaid i ti ddechrau gofyn cwestiynau, Dave".

O fewn y grŵp, fe wnaeth y negeseuon ddefnyddio un o'r geiriau mwyaf ffiaidd i ddisgrifio pobl hoyw, yn ogystal â thermau hiliol.

Fe wnaeth PC Heley hefyd rannu lluniau y gwnaeth ef eu recordio gyda Ricky Jones o gerbyd yr heddlu "tra ar ddyletswydd".

Ricky JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y ddau grŵp WhatsApp i'r amlwg wedi marwolaeth heddwas Gwent, Ricky Jones, a fu farw drwy hunanladdiad yn 2020

Honnir bod y plismon Simon Lewis wedi bod yn rhan o'r ddau grŵp WhatsApp - gan rannu negeseuon a oedd yn gwawdio menywod trawsrywiol a phobl yn hanu o Dde Ddwyrain Asia. Roedd e hefyd wedi sarhau pobl hoyw.

Fe wnaeth tystiolaeth a gafodd ei rhannu â'r panel ddangos negeseuon yn cyfeirio at drip PC Lewis i Wlad Thai - negeseuon a oedd yn cynnwys cyfeiriadau at ddod 'nôl â "ladyboys" i ddau aelod arall o'r grŵp ac roedd mwy o eiriau hiliol yn cael eu defnyddio.

Cafodd y panel wybod bod "rheoli ffydd y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu, a sicrhau safonau yn rhan annatod o'r achos hwn" a bod angen i'r heddlu "sicrhau ffydd a hyder y gymuned amrywiol y mae'n gwasanaethu".

'Tanseilio hyder y cyhoedd'

Wrth sôn am yr honiadau yn erbyn PC Heley, dywedodd Mr Waite fod yr "angen i fenywod gael ymddiriedaeth yr heddlu yn broblem sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac yn bryder cymdeithasol".

Yn fwy cyffredinol, fe ychwanegodd: "Mae'n hynod o bwysig bod swyddogion yn herio achosion o gamymddwyn ac os nad ydyn nhw mae hynny'n tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd."

Fe wnaeth y ddau swyddog ymddiswyddo o'r llu ddydd Gwener, ond fe wnaeth y gwrandawiad barhau hebddyn nhw.

Fe ddaeth y panel i'r casgliad bod yna sail o gamymddwyn difrifol i'r holl honiadau yn erbyn PC Lewis.

Yn achos PC Heley roedd yna sail o gamymddwyn difrifol i ddau o'r honiadau a sail rhannol i'r trydydd honiad.

Fydd y ddau ddim yn cael gweithio fel plismyn fyth eto.

Pynciau cysylltiedig