Gêm gyfartal i Ferched Cymru wrth ddechrau ymgyrch Cwpan y Byd

Dwy i GymruFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

1-1 oedd y sgôr ar yr hanner yn Stadiwm Miroslav Valenta

  • Cyhoeddwyd

Gêm gyfartal a gafodd tîm pêl-droed Merched Cymru oddi cartref yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth, wrth ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2027.

Hannah Cain ac Elise Hughes wnaeth sgorio'r goliau i Gymru, gyda Eva Bartoňová a Jana Zufankova yn sgorio i'r tîm cartref.

Ar bapur, hon oedd y gêm anoddaf i Gymru yn y grŵp ac mae'r canlyniad yn gadael Cymru yn ail yng ngrŵp B1.

Roedd hi'n gyfartal ar yr hanner yn Stadiwm Miroslav Valenta, yn nhref Uherské Hradiště, gyda sgôr o 1-1.

Bydd Cymru yn chwarae adref nesaf yn y gystadleuaeth, gan herio Montenegro ddydd Sadwrn am 16:30.

Disgrifiad,

Dyma uchafbwyntiau'r gêm

Dechreuodd Cymru'r gêm yn addawol gyda digon o egni, ond y tîm cartref aeth ar y blaen trwy gôl Eva Bartoňová yn dilyn amddiffyn gwael gan Gymru.

Rhyw 10 munud yn ddiweddarach cafodd y Cymry flas o'r goliau yn dilyn gwaith hyfryd gan Hannah Cain o ergyd gyntaf Cymru tua'r rhwyd. 1-1 oedd hi ar yr hanner.

Grwp Cymru

Eto cychwynnodd yr ail hanner yn dda i Gymru, ond yr un hen stori oedd hi wrth i'r tîm cartref fanteisio ar amddiffyn gwan, Jana Žufánková rwydodd i fynd ar y blaen eto.

Doedd Cymru ddim ar eu gorau yn ystod y gêm, ond fe wnaeth y tîm dal i bwyso yn yr ail hanner, wrth i Rhian Wilkinson wneud sawl newid i geisio creu'r cyfle hollbwysig.

Ym munudau olaf y gêm roedd y chwarae'n gwibio o un pen y cae i'r llall wrth i Gymru geisio achub pwynt.

Ac fe brofodd y Cymry eu gwydnwch ar y noson, wrth i Elise Hughes sgorio gyda'i phen wedi 93 munud i'w gwneud hi'n 2-2 erbyn y chwiban olaf.

Yn siarad ar ôl y gêm dywedodd Wilkinson nad oedd ei thîm ar eu gorau nos Fawrth, ond eu bod yn "gwybod y byddai'n frwydr, ac felly mae pwynt oddi cartref yn ganlyniad da".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.